Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yr Eglwys Rydd Unedig, yn yr hon y eodasai lleiafrif yn erbyn uho. Gwnaed darpariaeth hael ar eu cyfer hwy. Yn 1927 anfonwyd y drafft i lawr i'r henaduriaethau, gan wahodd awgrymiadau a gwelliannau. Eglurwyd ac oed- ,wyd drachefn er mwyn cyd-ddeall a chyd-symud yn well. Erbyn Mai 1929 yr oedd pleidlais pob llys wedi cyrraedd i'r ddwy Gymanfa, a'r awdurdod i uno wedi ei sicrhau. Ar yr ail ddydd o Hydref 1929 seliwyd yr undeb. Yng ng^heiriau'r Dr. John White, Coron y gwaith yw ei ddi- wedd. Ti, Dduw, a folwn." Caer. R. R. WILLIAMS. ANFODLONRWYDD. A MINNAu beunydd yn y mynydd maith Yn profi hedd ei odre cochddu, pell, Daw ataf lais o'r môr yn dweud mai gwell Anghyfanedd-dra y tywodlyd baith, A gwylio yno chwarae'r wylan wen A'i chytbwys droell ar ddiflin adain uwch Y penrhyn diffwys, ac ewynnog luwch Anesmwyth don yn llewych tua'r nen; Ond yho eilwaith clywaf ddistaw lef A ddywed mai hyfrytaeh ydyw byw Yn nwndwr hynt ddiaros dynol-ryw, A hud y symud sydd yn fiwsig tref; Ond yno eilchwyl clywaf ger fy nôr Y llais sy'n galw o'r mynydd ac o'r môr. Llanwnda. WYN WILLIAMS.