Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DATGUDDIAD YN YR ARGLWYDD IESU GRIST: DATGUDDIAD I'W DDARGANFOiD.* To many of us, neither iheaven nor earth has any revelation till some personality touches them with a peculiar influence, subduing them into receptiveness." — George Eliot. YN cyfateb i eiriad ein testun, y mae i ddatguddiad ddwy ochr anwahanadwy oddi wrth ei gilydd, sef yw'r rheiny, cyfraniad Duw a darganfyddiad dyn. Nid oes ystyr i'r naill ar wahân i'r Hall. Golyga pob datguddiad gyd-weith- rediad rhwng dau, y naill yn rhoddi a'r llall yn derbyn. Nid datguddiad a fuasai rhoddi yn unig. Rhagdybia dat- guddiad, fel rhodd, rywun arall ac ynddo gymhwyster i dderbyn. Nid datguddiad a fuasai darganfyddiad noeth ychwaith, canys golygai hynny ennill gwiriohedd, naill ai o ffynhonhell amhersonol neu o un anewyllysgar. Dwy ochr i'r un a'r unrhyw brofiad yw datguddio a darganfod, yr ochr ddwyfol a dynol; ac nid digon un heb y llall. Yn lle rhannu'r maes rhyngddynt perthyn y maes i gyd i'r ddau. Gellir, wrth reswm, ddisgrifio datguddiad yn nhermau hunan-eglurhad a hunan-fynegiant Duw, neu os mynner, yn nhermau ceisio a chael dynion. Ond mewn profiad yh un y maent yn cytuno. Â rhai ysgrifenwyr diweddar eyn belled â haeru bod yr elfen ddwbl yma yn perthyn i bob gwybodaeth ddynol, ym mha faes bynnag. Ebe Leonard Hodgson, Reason and revelation are correlative terms, denoting not con- trasted methods of arriving at truth, but two complement- ary elements in all attainment of truth." Braidd yn eith- afol yw'r safle yna, a'i pherygl yw tynnu colyn pob ystyr o'r syniad o ddatguddiad. Nid yw pob gwir wybodaeth, er ei gwired, yn haeddu ei galw yn wybodaeth o Dduw, er caniatáu nad yw'n hollol ddi-berthynas â datguddiad Duw yn yr enaid. Buasai'n anodd, er hwyrach nid yn am- Anerchiad a draddodwyd yn un o gyfarfodydd Undeb Athrofa'r Bala, yn Harlech, Gorff., 1929.