Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU. PSYCHOLOGY AND RELIGIOUS EXPERLENCE. By W. Fearon Hàlliday, M.A., Professor of Theology and the PhU losofhy of Religion at the Selly Oak Colleges, Birmingham. 320 pp. Hodder and Stoughton. 8/6 net. Y mae dyn yn byw mewn byd sy'n gynwysedig o bethau, per- sonau, a Duw. Cyfathrach â'r byd yw ei fywyd, ac mewn amryw- iol ffyrdd ceisia ei gymhwyso'i hun at ei íyd, a'i fyd ato yntau. Trwy'r gyfathrach hwn y tyf mewn maint, ynni a deheurwydd, a hefyd mewn profiad a gwybodaeth, mewn rhinwedd a chymeriad. Disgrifio nodweddion ymddygiad dyn yn y gyfathrach hon yng nghwahanol gyfnodau'i oes, ac o dan amrywiol amgylchiadau bywyd a bod, a geisia Meddyleg. Rhan, neu ffurf, neu wedd ar ei ymddyg- iad yw ei .grefydd — ei ymddygiad tuag at ei Dduw yn arbennig, ond hefyd ei ymddygiad tuag at ddynion a phethau yngoleuni a grym ei gyfathrach â'i Dduw. Ac íel y cyfryw daw crefydd o fewn cylch astudiaeth Meddyleg. Amheua rhai pobl hawl Meddylegwyr i .gyffwrdd â chrefydd; ond ni wnânt hwy ddim amgen na'r hyn a gais y neb sy'n ceisio adnabod ei gyd-ddynion. Cymer pawb ohonom ddiddordeb yn ein gilydd a cheisiwn adnabyddiaeth o'n gilydd. Y gwahaniaeth rhwng astudiaeth wyddonol a'n sylwadaeth gyffredin yw y ceisia'r Medd- ylegydd ei wybodaeth gyda mwy o ddyfalwch ac o drefn, ac y tyn ei gasgliadau yn fwy gofalus, a rhydd iddynt ffurf fwy cyffred- inol. Diau nad yw popeth a ddysgir gan feddylegwyr yn gywir- gwyddor yn tyfu ydyw-ond fel gwyddonwyr gwybodaeth glir a geisiant; a phan welir bod unrhyw osodiad o'u heiddo yn anghywir, amwys, neu amherffaith, ymdrechir ei gywiro drwy ymchwiliadau llwyrach. Wrth reswm, ni chymer .gwybodaeth feddylegol Ie ad- nabyddiaeth bersonol o ddynion. Ond y mae'n help i gyrraedd y cyfryw adnabyddiaeth. Am hynny y mae'n amhrisiadwy werth- fawr i weinidog oblegid ei allu i adnabod dynion yw un o'i brif gymhwysterau i gyflawni ei waith fel pregethwr a bugail. Cafodd y wyddor hon gryn sylw yn ystod yr hanner canrif di- wethaf ac y mae cryn ddefnydd wedi ei wneud o'i darganfydd- iadau gan feddygon ac eraill i wella anhwylderau'r meddwl a'r corff. Y mae'r arfer feddygol hon yn ei thro wedi chwanegu'n ddinfawr at ein gwybodaeth feddylegol. Erbyn hyn y mae'r llenyddiaeth sy'n ymwneud ag ymddygiadau dynion mor helaeth a chyfoethog fel y mae'n anodd i neb ymgydna'byddu â'r cwbl ohoni. Ac amcan cyfrol yr Athro Halliday yw gosod peth o'r wybodaeth hon ynghyrraedd gweinidogion, a dangos y modd y gall fod o wasanaeth iddynt yn eu gwaith o ofalu am eneidiau dynion. Y mae ef ei hun wedi profi ei gwerth fel cyfrwng i ddwyn eneidiau at Dduw ac i iachau a chyfoethogi eu bywydau. Cynhaeaf ei fyfyrdod a'i waith personol ef fel gweinidog i Grist yw cynnwys y gyfrol gan mwyaf. Ofnir y wyddor hon gan rai. Tybiant ei bod yn beryglus i grefydd. Ni wâd yr Athro nad yw'n ddinistriol i lawer ffurf ar grefydd i bob íîurf yn wir a gwyd o galon afiach a gwyrni