Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

THE LORD OF LIFE: A Fresh Aỳỳroach to the Incarnation. 244 pp. 10/ Student Christian Movement, London. 1929. Yr ydym bellach yn lled gyfarwydd â chyhoeddiau'r Student Christian Movement. Gellir yn hawdd ategu'r hyn a ddywedodd yr Arglwydd Davidson, yr Archesgob, amdanynt, sef eu bod wedi eu profi eu hunain o werth neilltuol i nifer fawr 0 bobl sydd yn awyddus i wybod beth yw meddwl crefyddol yr oes. Adolygiad byr o un o'r cyhoeddiadau hyn a fydd y llinellau a ganlyn; a hoffem ar y cych- wyn ddatgan fod y gyfrol sydd gennym o dan sylw, os hyhi yw'r ddiwethaf a ymddangosodd, yn bell o fod y leiaf o safbwynt ceisio cyfarfod â gofynion y meddwl ymchwilgar sydd, ni gredwn, ar gynnydd ym Mhrydain ac yn neilltuol yng Nghymru heddiw. Prin y gallwn ddweud bod cynnwys y gyfrol, ar y cyfan, yn dysgu dim sydd yn newydd i'r rhai hynny a ymdrechant gadw mewn cyffyrddiad â meddwl cretfyddol dechrau'r ganrif bresennol. Y mae'r olygwedd a fabwysiedir gan yr ysgritfenwyr yn un y mae ef- rydwyr mewn diwinyddiaeth ac athroniaeth yn gyfarwydd â hi; ac y mae'r hyn a draethir am bersonoliaeth yr Iesu ac am ddatblyg- iad yr athrawiaeth amdano Ef, ynghyd â'r ymgais .feistrolgar a wneir i ddehongli'r broblem yn nhermau'r oes bresennol, i gyd ar linellau sydd yn lled gynefin. Ond, ar yr un pryd, y mae'r angen am boblogeiddio'r safbwynt hwn yn un llosgawl, ac y mae'n rhaid cydnabod i'r ysgrifenwyr hyn lwyddo i wneud hyn yn effeithiol ac yn drawiadol. Casgliad o ysgrifau a geir yma, ac y mae rhannau o'r casgliad yn swynol dros ben, a gesyd allan y ffeithiau a'r dadl- euon mewn dull neilltuol o atyniadol. Diamau, os manteisir arni, y try'r gyfrol hon allan yn ysbrydiaeth ac yn wasanaeth i lawer. Y dull o wynebu athrawiaeth yr Ymgnawdoliad yn y llyfr hwn yw -cychwyn gyda phrofiad-profiad crefyddol y ddynoliaeth, neu, yn gywirach, â defnyddio brawddeg un o'r ysgritfenwyr, profiad del- frydol (normative) Cristnogol (td. 5). Yn gyson â'r dull hwn y mae'r mwyafrif o'r awduron o dan ddylanwad Meddyleg ddiweddar, ac, yn wir, fe geir un bennod gyfan, sef eiddo'r Parch. G. E. Darleston ar Angen Dyn am Geidwad, yn ymdrin yn lied fanwl â'r ddysgeidiaeth feddylegol ddiweddaraf ar bersonoliaeth. Y mae ein dehongliad presennol o bersonoliaeth yn arwain yn anochel- adwy at y casgliad na eill fod gwahaniaeth hanfodol rhwng y nod- weddion a elwir yn ddynol ac yn ddwyfol ym mhersonoliaeth yr Iesu. Wrth gwrs, fe deifl gwybodaeth lwyrach c'r natur ddynol oleuni pellach bob amser ar gymeriad yr Iesu. Y Dr. Vernon Bartlet, yr hanesydd eglwysig adnabyddus, yw'r awdur a olrheinia, mewn tair pennod, ddatblygiad yr athrawiaeth am Berson Crist o'r amseroedd Apostolaidd hyd at yr amseroedd diweddar; a dengys ef yn glir neilltuol y cyfnewidiadau a gymerodd le yng nghwrs y canrifoedd mewn perthynas â dehongliad yr athrawiaeth, a hefyd rhai o'r anawsterau yr oedd yn rhaid eu hwynebu yn barhaus, fel, mewn canlyniad, y mae'r angen yn aros am ryw athroniaeth o'r Ymgnawdoliad fel yr hon a amcenir gan rai o ysgrifenwyr y casgl- iad hwn. Cymro adnabyddus, y Dr. Miall Edwards, yw'r awdur a ysgrif- enna ar Gristolaeth mewn Termau Diweddar. Sylwn ei tfod ef yn 61 ei arfer yn neilltuol o feistrolgar. Yr ydym yn gyfarwydd â'i erthyglau ar Berson Crist yn ei lyfr Crefydd a Bywyd," a chofiwn hefyd gyfrannu ohono at yr un testun i'r Hibbert Journal rhyw dair neu bedair blynedd yn 61. Y mae rhai blynyddoedd bellach er pan