Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fynegi'n glir a phendant rai pethau mewn ffurf negyddol? Credwn fod mesur o ddistriw yn anhebgorol er sicrhau effeithiolrwydd i ym- drechion adeiladol a chadarnhaol. PH. J. J. THE PRIMITIVE CHURCH Studied with sŷecial reference to the origins of the Christian Ministry. The Hewett Lectures, 1928, by Burnett Hittman Streeter, Reader in Christian Origins in the University of Oxford. Macmillan and Co. 1929. 8/6 net. "Beth a ddarfu i'r Deuddeg?" Dyma ofyniad cyntaf y Canon Streeter yn y llyfr dysgedig a diddorol hwn. Dengys mai ychydig o'u hanes sydd ar gof a chadw, ond bod llawer o chwedleuon am- danynt yn nuwiol ramantau'r ail ganritf. Yn wyneb yr ansicr- wydd yma, dengys na ellir coleddu'r syniad traddodiadol am y Deu- ddeg, sef, ddarfod iddynt aros yng Nghaersalem fel Clasgor o Gar- dinaliaid, i ffurfio athrawiaeth a llunio trefn-lywodraeth ar yr Eglwys Fore. Yn hytrach, cenfydd gyfnod hylif yn hanes yr Eglwys, pan gyd-ffynnai eglwysi unesgoboi, henuriaethol, a chynulleidfaol. Prif osodiad y llyfr yw bod amrywiaeth cyntefig yn llywodraeth yr Eglwys. Megis y datblygodd ei hathrawiaeth yn raddol i .gyfateb â gwa- hanol anghenion, tfelly hefyd y tyfodd ei ffurf-lywodraeth a'i swydd- ogaeth, nes bod y ffurf unesgobol y fwyaf cyffredin erbyn canol yr ail ganritf. Diddorol yw sylwi beth a arweiniodd Streeter i ysgrifennu'r llyfr hwn. Eddyf na chai fawr flas ar Hanes yr Eglwys pan ddechreu- odd ddarllen Diwinyddiaeth, a hynny am nad oedd yn hanes o gwbl i un wedi cynefino â hanes Groeg a Rhufain. Gedy i eraill benderfynu a ydyw'r llyfr hwn yn "hanes" ai nad yw. Ond dy- wedid wrthym iddo fwynhau ei ysgrifennu, the hue and cry after new discovery, the following up of hitherto unnoticed clues." Dyma'r ysbryd yr ysgrifennwyd y llyfr ynddo, a dyma'r ysbryd hefyd y rhaid wrtho i'w ddarllen. Oherwydd paham, anturiaeth ddifyr a chyffrous yw dilyn Streeter ar hyd llwybrau cy<farwydd llenyddiaeth y ganrif gyntaf. Fe'u tramwyasai llawer eisoes, ac anodd credu y gellid dyfod o hyd i ddim newydd. Diddordeb llyfr Streeter yw ei newydd-deb. Ond rhaid wrth air o rybudd. Gan gyflymed ei gerddediad a rhaib ei feddwl, y mae'n rhaid bod yn bur wyliadwrus wrth ddilyn ei gamre. Nid yw damcaniaeth, er iddi fod yn ddamcaniaeth wyddonol, yn sicrwydd. Ac nid yw teb- ygolrwydd yn arwydd sicr. Feallai na chyhoeddwyd erioed lyfr ar hanes yr Eglwys a chynifer o ddyfaliadau ynddo Cofier hefyd fod y Canon Streeter â'i lygad ar Gynhadledd Lam- beth ar gwestiwn Aduniad yr Eglwysif Swyddogaeth a threfn eg- lwysig yw'r maen tramgwydd mwyaf ar ffordd aduniad. Anodd gweled yn eglur pa ddosbarth a eilw Streeter yn gymwynaswr idd- ynt. Ni ddiolchir llawer iddo gan y Catholigion Eingl am ei ym- osodiad ar olyniaeth apostolaidd yr esgob unigol, ac ar honiadau Rhufain am archesgobaeth Pedr. Ond rhaid cofio ei eiriau, mai ysbryd antur yn profi gwahanol gynlluniau a alluogodd yr Eglwys Fore i gyflawni'r fath orchestwaith. Yn hyn, ac efallai mewn pethau eraill, â'r Eglwys heddiw rhag ei blaen, nid trwy efelychu ffurfiau, ond trwy ad-feddiannu ysbryd vr Eglwys Fore." Yn ei orchestwaith ar y Pedair Efengyl gwnaeth Streeter yn hysbys ei ddull taleithiol o ymdrin â hanes yr Eglwys. Gyda llaw math ar atodiad yw'r llyfr hwn i hwnnw. Y mae'n gymaint