Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Os cywir ein hesboniad o eiriau Papias, anodd gweled grym yr haer- iad hwn. Colled hefyd yw gwadu dilysrwydd yr Epistolau Bugeiliol. Y mae rhesymau cedyrn dros gredu mai cynnyrch henaint yr Apostol ydynt. Gan feithder ein llith eisoes, gofod a ballai inni gyfeirio at dldyrysbwnc perthynas esgob â'r henuriaid. Trafodir hyn yn dra helaeth ym mhob llyfr ar hanes yr Eglwys a phob esboniad ar y rhannau priod o'r Testament Newydd. Bydd ryfedd gennym onid ennyn y llyfr hwn ddiddordeb newydd yn hanes yr Eglwys a'i gweinidogaeth, a meithrin ysbryd gostyng- edig ym mhawb a daero mai trefn ei briod eglwys ef, a honno'n unig, sydd yn 61 y siampl a'r portread a ddangoswyd yn yr Eglwys Fore. A berystwyth. W. R. WlLLIAMS. HANES METHODISTIAETH LERPWL. Gan John Hughes MORRIS, LIVERPOOL. CYFROL I. LIVERPOOL: Cyhoeddwyd ar ran Cyfarfod Misol Liverỳool gan HUGH EVANS a'i Feibion, Swyddfa'r Brython. 1929. xi.-f.403 td. 5/ Fel y dywedir ar ddechrau'r Rhagair i'r gyfrol hon, yr oedd y .gwaith hwn yn yr arfaeth er y flwyddyn 1882. Ymddiriedwyd i'r Dr. Owen Thomas y gorchwyl o ysgrifennu Llyfr Coffadwriaethol yn cynnwys Hanes Dechreuad yr Achos yn Liverpool;" ond dechreu- asai nerth yr hen wron hwnnw ballu bellach. Daeth prysurdeb a llesgedd i rwystro dau frawd arall gyflawni'r gorchwyl, ond ymhen a.gos i hanner canrif wele wr prysur ac egwan ddigon o gorff wedi llwyddo lle methodd cewri, ac wedi llwyddo'n rhagorol iawn. Yn wir, y mae'r gwaith mor raenus fel mai hawdd a fuasai i adolygydd ymddangos yn ddall i ffaeleddau ynddo. Rhennir y cynnwys yn bedair pennod ar ddeg, gydag Atodiad ar y diwedd, tabl amser "o'r prif ddigwyddiadau y crybwyllir am danynt yn y gyfrol hon." Yn y bennod 'gyntaf cawn drem ar Y Cymry a Liverpool," ac yn yr ail William Llwyd, a'r Eglwys yn ei Dy;" yna tair pennod ar "Yr Hen Ball Mall" neu Pel Mel fel y seinir yr enw un ar Samuel Jones a'i Ddyddiaduron, a chyda llaw mab i Robert Jones, Rhoslan, oedd y Samuel Jones hwn; pennod ar Crosshall Street, tair ar Bedford Street a Princes Road, dwy ar Rose Place a Fitzclarence Street; un ar Oil Street, Burlington Street, Netherfield Road a Dougas Road a'r olaf ar "Cyafarfod yr Henuriaid," yr hyn a ddaeth yn ddiweddarach yn Henaduriaeth Lerpwl, er na fyn y brodyr yno mo'r teitl yna ar eu Cyfarfod Misol." Gellid llanw tudalennau â dyfyniadau o'r gyfrol, rhai ohonynt yn ddigon gogleisiol i beri llawer un heblaw Henry Rees chwerthin cymaint ganol nos nes i'r gwely grynu tano, eraill yn trafod digwydd- iadau y sy'n ddarlun perffaith o nodweddion Methodistiaeth Lerpwl hyd heddiw, ac eraill drachefn yn croniclo rhai o symudiadau mwyaf y Cyfundeb, a'r rheiny wedi cychwyn yn Lerpwl. Cymerer un neu ddau o'r symudiadau olaf hyn yn Lerpwl yn Rose Place, yn 1840, y cychwynnwyd Cenhadaeth Dramor y Corff; ac yn 1842 dyma ordein- io, yng nghapel Bedtford St. (Beaufort St. yn awr) dri chenhadwr. Yno yn 1847 y rhoddwyd cychwyn, meddir, i'r ymdrech i ffurfio cronfa at gynnal Athrofa'r Bala. Yno, yn Rose Place hefyd, y cyn-