Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

,(td. 238)? Sovereigns, ni gredwn, yw ŷunnoedd. Sylwasom hefyd ar frawddeg neu ddwy go lac eu cystrawen ac amwys eu hystyr oherwydd hynny, megis wrth gychwyn yr ail baragraif ar td. 182; ac yn niwedd y paragraff cyntaf ar td. 352. Gadawn i eraill feirniadu rhai o fanylion y darlun a roddir yma. Tueddwn ni i gredu ei fod yn ddarlun teg iawn: yn ddi-ddadl y mae'n un byw iawn. Mewn ychydig gyteiriadau y bydd tuedd i gwestiyno. Clywsom ddywedyd mai'r eglwys a enwir ar td. 266 oedd un o'r rhai a deimlodd leiaf oddi wrth ddylanwadau Diwygiad 1904-05. Dichon hetfyd y teimla rhaijddarfod i'r awdur roddi braidd ormod o bwys ar farn Samuel Jonês a'i ddyddiadur, a gwyro ychydig efallai yn ddiarwybod at y îarn honno; ac eto ceir enghreifftiau lle dangosir yn eglur inni fod y cofnodydd hwnnw'n geidwadol ac unochrog. Bodlonwn felly ar alw sylw eilwaith at ragoriaeth y gwaith. Anodd a fyddai gennym ddywedyd ai'r Hanes hwn ai Cofiant Dr. John Williams yw'r mwyaf diddorol. Ni allwn lai na synnu at ddawn Mr. Hughes Morris, a rhyfeddu iddo allu cwblhau'r igorchwyl niewn amser mor fyr. Oni bai am haelioni Cyfarfod Misol Lerpwl, byddai'r gytfrol yn llawer drutach. A fynno wledd, pryned hi; ac ni synnem glywed ymhen ychydig flynyddoedd ei bod ym- .hlith y llyfrau prin a gwerthfawr. A chaffed yr awdur rwyddineb i gyhoeddi cymar iddi, er mai di-gymar ef ei hun D.F.R. HAMDDEN YR ADOLESCENT YNG NGHYMRU. Hughes a'i Fab, Gwrecsam. 60 td. 1/ Llyjfryn bychan 60 tudalen ydyw hwn yn ymdrin â phwnc pwysig ac amserol, ac wedi ei ysgrifennu gan nifer o awduron a tfu'n astudio problem yr ifanc mewn cynadleddau o dan nawdd Ysgol Gwasanaeth Cymdeithasol trcs Gymru." Nid beirniadu'r llyfryn sydd eisiau, ond galw sylw pob Cymr-o sydd yn fyw i bwys- igrwydd bywyd ieuenctid at ei gynnwys. Rhennir yr ymdriniaeth ar Hamdden i bum adran-I, Diwyd- iant; 2, Addysg 3, Cartref; 4, Creíydd 5, Cymdeithas; a chawn ym mhob pennod farn un cyfarwydd a phrofiadol ar yr agwedd ar- bennig a drinir ynddi. Gwelir fod y llyfryn yn cyffwrdd â bywyd yr ifanc o lawer pwynt, ac amhosibl disgwyl am fwy nag awgrymiadau a sylwadaeth glir. ](Ni wn i sicrwydd pa wahaniaeth hanfodol sydd rhwng ieuenctid a chyfnod yr adolescent, ond fod y gair newydd yn pwysleisio'n arbennig yr agwedd o dyfiant). Yn y bennod ar hamdden a diwydiant, ceir cipdrem ar gyfnew- idiadau pwysig yr hanner can mlynedd diwethaf, a'r modd y mae iawn ddefnyddio hamdden wedi dyfod i'r fath sylw. Ceir yma ymholiad i ddylanwad hamdden, o'i iawn ddefnyddio, ar ddiwyd- iant; ond gwesgir fod amcan uwch i ymestyn ato, hynny yw, lies a thyfiant yr ieuanc yn gorfforol ac ysbrydol. Rhoddir hanes am waith welfare mewn cysylltiad â gwaith cocoa, a hefyd ynglyn â'r .gwaith glo yn Neheudir Cymru. Diweddir y bennod gyda'r casgl- iad fod gofalu am gyfleusterau welfare yn cyfrannu at (a) Gwella'r berthynas rhwng cyflogydd a chyflogedig. (b) Diddordeb helaethach yng ngwaith y dydd. (c) Gweithwyr iachach. (ch) Rhagor o gynnyrch. (d) Cyfnodau hwy o wasanaeth."