Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ALLOR: GWEDDIAU A MYFYRDODAU. Cyhoeddir dros Urdd y Deyrnas gan Wasg y Bala. 115 td. 1929. Pris 1/6. Yn yr Oesoedd Canol ymddangosodd tair Urdd yn Ewrob,-y Brodyr Duon, Gwynion a Llwydion; ac yn y dyddiau diwethaf hyn wele o leiaf dair yng Nghymru­-Urdd Gobaith Cymru, Urdd y Bobl leuainc ac Urdd y Deyrnas. Am yr olaf. gellir dywedyd mai plentyn Mudiad Cristnogol y Myfyrwyr ydyw, er nad yw'n ei chyfyngu ei hun i'r sawl a fu neu y sydd yn fyfyrwyr yn ystyr fanylaf y gair. Y mae ei chenadwri lawn cymaint at rai heb fod mewn coleg, a buddiol neilltuol iddynt hwy ac i fyfyrwyr coleg fydd y Llyfr Gwedd- iau a Myfyrdodau hwn. Ni ellir gwadu nad yw'r traddodiad defosiynol yn gwanhau yn ein moddion cyhoeddus ac yn ein bywyd preifat," a darparwyd y llyfr hwn i geisio bywhau a chryfhau yr agwedd bwysig yma ar fywyd crefyddol. Ceir ynddo ffurfiau o was- anaeth ar gyfair odfaon cyfain yn ogystal â gweddiau byrion a myfyrdodau defosiynol i'w defnyddio'n breifat. Un o nodweddion hyfrytaf y llyfr yw ei amrywiaeth, a dyledwr ydyw i seintiau hen a diweddar yr Eglwys am rannau helaeth o'i gynnwys. Er nad yw'n berffaith,-ei gasglwyr a tfyddai'r olaf i honni hynny,-y mae o ran cynnwys, trefn ac iaith yn neilltuol o gymwys i gyfoethogi a dyfnhau'r bywyd crefyddol. Gwnaeth Gwasg y Bala ei gwaith yn rhagorol ac nid peth dibwys yw hyn mewn llyfr o'r natur yma. Ar lawer cyfrif y mae'r Uyfr yn torri tir newydd yn llên grefyddol ein gwlad, a hyderwn y bydd defnyddio mawr arno. Teilynga hynny'n ddiddadl. G. A. EDWARDS.