Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. NODIADAU CYFFREDINOL. UN o nodweddion amlycaf yr hanner canrif diwethaf, y mae'n sicr, ydyw'r sylw a roddir i Addysg yn ei holl agweddau. Yn ystod y cyfnod hwn, o fewn cof llawer y sy'n fyw heddiw, gwelwyd sefydlu yng Nghymru Fyrddau Ysgol a chodi llu o ysgolion ganddynt, trefnu Ysgolion Canol, agor Colegau a ffurfio Prifysgol. Ahodd yw inni fesur dylanwad yr amrywiol gyfleusterau addysgol hyn ar fywyd ein gwlad. Y maent, beth byn- nag arall a ddyweder, wedi codi'h fawr safon ei deall; a ydyw hi'n well hefyd o ran moes a diddordeb mewn cref- ydd sydd bwnc y bydd efallai wahaniaeth barn arno, ac ni ellir ei drafod yma. Ond credwn mai gwaith rhagorol ydyw agor y meddwl a rhoddi min arno, ac mai gwerth- fawr ydyw pob goleuni. Ac er y gellir defnyddio'r gorau i'r amcanion gwaethaf, eto diamau gennym mai dyrchafu bywyd y genedl a wnaeth ei haddysg. Eithr nid da lIe gellir gwell. Ac erbyn hyn ceir cryn anniddigrwydd ym meddyliau caredigion Addysg yn ein gwlad; a chryn drafod ar y cwestiwn a yw'r gyfundrefn mor effeithiol ag y gallai ac y dylai hefyd fod. Y mae ers amser anfodlronwydd arbennig ynghylch y trefniadau ar gyfer addysgu plaht rhwng I a 15 oed, ac arwydd bod yr anfodlonrwydd hwn yn weddol gyffredinol oedd gwaith Bwrdd Addysg y Llywodraeth yn penodi Comisiwn ar y pwnc yn y flwyddyn 1924. Penodwyd Comisiwn arall y llynedd i ystyried anghenion addysgol ardaloedd gwledig. Cyhoeddwyd adroddiad y Comisiwn cyntaf, yr Hadow Report fel y gelwir ef ar ôl enw ei Gadeirydd, Syr Henry Hadow, yn y flwyddyn 1926. Cyfrol werthfawr iawn yw'r