Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PROFIAD YSBRYDOL. i. UN o brif nodweddion yr ymdriniaeth ddiweddar o gref- ydd yw'r apêl at brofiad. Symudwyd y pwyslais o awdur- dod i brofiad. Yn y gorffennol, seiliwyd gwirionedd crefydd ar anffaeledigrwydd honedig ei ffynhonnell neu ar awdurdod y cyfryngau a ordeiniwyd i'w datguddio i'r byd (e.g. y Beibl, yr Eglwys). Ond yn ôl y dull modern seilir y prawf o'i dilysrwydd ar wirionedd a gwerth cynhenid crefydd fel yr ategir hi gan brofiad personol. Yn awr pa wahaniaeth a wnâ'r cyfnewid pwyslais hwn i ni ? Golyga y'h hamddifedir i raddau mawr o ategion allanol a'n taflu'n ôl ar adnoddau ein bywyd mewnol ni ein hunain. Ennill amlwg yw hyn mewn llawer modd. Gwnâ grefydd yn fater o anturiaeth allanol. Cefnoga ys- bryd ymchwil ac arbrawf a darganfyddiad personol mewn crefydd. Ond och ni! wrth ein taflu'n ôl arnom ein hun- ain gwnâ inni sylweddoli ein tlodi ysbrydol. Datguddia inni noethni'r wlad y preswylia ein henaid ynddo. Fe'n brawychir wrth ddarganfod ohonom mor llwm ac amwys yw ein profiad crefyddol, ac mor ddieithr a disylwedd yw'r byd ysbrydol inni. Pan symudir ategion awdurdod allanol ymddengys fel petai holl adeilad ein ffydd yn cwympo i'r llawr a'n gadael ninnau'n ddigartref. Tra y teimlwn fod ein profiad seciwlar­dyweder ein profiad o fyd masnach a pholitics-yn rhywbeth diriaethol (concrete) a phendant inni, ymddengys ein profiad ysbrydol yn niwlog ac annel- wig i'r eithaf. Ac i'r graddau y mae gennym deimladau crefyddol o gwbl, fe'i cawn yn anodd i grisialu'r teimladau hynny i'r ffurf o argyhoeddiadau clir, byw, penodol. Ein gair cyntaf ar hyn yw, na ddylem ddigalonni'n or- modol oherwydd yr amwysedd a'r ansicrwydd ymddangos- iadol hwn. Y ffaith yw, fe gynhwys ein profiad fwy nag sy'n hysbys i ni ein hunain ar y pryd, a llawer mwy nag a allwn ei gyfundrefnu mewn hyn a hyn o syniadau pendant. Y mae hyn yn wir am brofiad dyn ym'hob un o'i lefelau-