Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EIN LLYWODRAETH LEOL. Tu allan i'r Bwrdeisdrefi a'r trefydd gweithfaol, He ceid Dirprwywyr Gwelliannau (Improvement Commissioners) neu Fwrdd cyffelyb, yr oedd llywodraeth leol ein gwlad, ar wahân i Addysg a gofalu am y Tlodion, hyd y flwyddyn 1888 i bob pwrpas ymarferol yn nwylo'r Frawdlys Chwar- terol. Yr Ustusiaid a reolai'r ffyrdd, a hwy oedd, fel heddiw, yr awdurdod terfynol ar drethiant lleol. O dan eu gofal hwy yr oedd yr Heddgeidwaid, yn ddarostyngedig i reolaeth Swyddfa Gartrefol y Llywodraeth, a hyd 1830 hwy a benodai gyflog y llafurwyr. Gan yr Ynadon o hyd y gweinyddir y Deddfau Trwyddedu. Yr oedd gofal y tlodion yn nwylo'r plwyf hyd 1834, pan ffurfiwyd Byrdd- au'r Gwarcheidwaid; ond parhaodd materion plwyfol, eglwysig, a bydol i gael eu rheoli yn y Festri hyd 1894. Erbyn hyn y mae'r Festri yn ymarferol, yng Nghymru, yn gyfyngedig i faterion eglwysig gan gynnwys, trwy'r War- den, reolaeth anuniongyrchol ar y fynwent blwyfol. Yn y dinasoedd a'r trefydd ceid Corfforaethau wedi eu creu drwy Siarter. Rhed hanes llawer siarter yn ôl am ganrif- oedd, rhoddwyd eraill yn ddiweddarach, a cheir llawer o'r bwrdeisdrefi yn gwahaniaethu yn natur eu galluoedd neu yn null eu ffurfiad a'u rheolaeth. Hyd 1834 yr oedd rheol- aeth y Corfforaethau gan amlaf yn nwylo'r ychydig, a'r ychydig hynny, fel y dangosodd y Ddirprwyaeth Fren- hinol, yn aml yn anghymwys a llygredig. Yn 1835 pas- iwyd deddf i'w hadrefhu, a chwanegwyd at eu hawliau gan ddeddfau eraill a basiwyd o dro i dro. Hyd 1870 dibynnai Addysg ar ymdrechion gwirfoddol yr Eglwysi a chym- deithasau eraill. Ychydig a ymyrrai'r Llywodraeth ond trwy estyn cymorth ariannol i godi ysgolion. Rhoddodd Deddf Addysg 1870 hawl i sefydlu Byrddau Ysgol, ond fel y dywedwyd, parhai'r tlawd i fod dan ofal y Gwarcheid- waid. Yn 1888 pasiwyd Deddf Llywodraeth Leol. Ei hamcan oedd sefydlu Cynghorau Sir a chyflwyno i'r Cynghorau hynny beth o'r gallu a'r hawl a oedd yn nwylo'r Ustus- iaid. Trosglwyddwyd iddynt reoli'r ffyrdd, ond hi chyf-