Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JOSEFF MAZZINI (1805— 1872). AFRAID yw ymddiheuro am sôn yn fyr a bras wrth ddar- llenwyr Y TRAETHODYDD am wr y dywedodd y Times amdano, wrth gyflwyno cyfrol newydd o'i lythyrau at deulu yn y wlad hon a fu garedig wrtho ag ef yn alltud yn ein plith, "ni ellir gwybod gormod am wr mor nobl â Mazzini." Credai Ruskin pe gwisgasai'r proffwyd goch, a'r milwr ddu, nad yr hyn yw a fuasai hanes y byd heddiw. Cawsai'r proffwyd yn ei goch, ac nid y milwr yn ei ddu, wên a ffafr y breninesau, merched a gwragedd dynion. Yn ei ddydd yr oedd Garibaldi, gẃr y.gob goch, cyfoed i Mazzini, ond llai dyn o'r hanner nag ef, yn enw hysbys yn y wlad hon, gymaint felly fel y gorymdeithiai tyrfa- oedd yn Llundain un adeg, gan ganu I wish I had a pennyl What for? What for? To buy a rope, to hang the Pope Instead of Garibaldi." Er na fuasai i Garibaldi fawr hynodrwydd ar wahân i Mazzini, ychydig iawn tu allan i'r Eidal a wyddai lawer am wr y gob ddu, y proffwyd Mazzini, er rhoddi ohono ei fryd ar wasanaethu'r byd trwy wasanaethu ei wlad ei hun yn y modd ac yn yr ysbryd a wnaeth. Ond .câr yr ychydig hynny ef yn angerddol iawn. Ys dywed y Dr. Thomas Jones, yn ei ragymadrodd i Ddyletswyddau Dyn Mazzini, Hyd yn ddiweddar gadawyd ei gyfan- soddiadau i fynd allan o brint heb i'r tyrfaoedd ddyfalu ei neges, ond ysbrydolodd ei genadwri ef rai o ymdrechion mwyaf dihunan ein dydd, ffyddlondeb ambell settlement worker, neu feddyg yn Nwyrain Lluhdain, ambell i gyng- horwr tre neu ddosbarth, neu gydweithredwr sclog, neu ambell i arweinydd Llafur heu Genedlaetholwr pybyr." A gwyddir bellach i Mazzini ddylanwadu yn fawr ar y di-