Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFRANIAD Y DR. JOHN OMAN I DDIWIN- YDDIAETH. FE welir rhestr o weithiau'r Dr. Oman ar wyneb-ddalen unrhyw un o'i lyfrau diweddaraf, rhyw wyth ohonynt, heblaw ei erthyglau i'r cylchgronau, o'i gyfieithiad o waith Schleiermacher ar Grefydd hyd ei esboniad ar Lyfr y Datguddiad. Ond ar hyn o bryd, i amcan ein testun, ni bydd a fynnom ond â dau o'i weithiau, a'r ddau hynny y pwysicaf efallai o'r cwbl. A ffodus yw bod y naill ym- hlith ei weithiau cynharaf a'r llall ymhlith ei weithiau di- weddaraf; Vision and Authority a gyhoeddwyd gyhtaf, yn 1902, a Grace and Personality yn 1917. .1 Yr oedd Vision and Authority yn llyfr ei oes mewn ystyr arbennig iawn. Fe gododd o amgylchiadau byd meddwl yr oes ddechrau'r ganrif hon, a gwybod a deall yr amgylchiadau hynny a eglura inni amcan ac ystyr y llyfr. Yr oedd yr ymchwil hanesyddol, fel ffrwyth aedd- fed Oes Rheswm y i8fed ganrif, wedi creu cyffroad arswydus, ac nid yn fwy felly yn unman nag yn y byd crefyddol a diwinyddol. Yr oedd yr hen seiliau yn crynu'n enbyd, byd y prifysgolion seciwlaraidd eisoes yn gweled crefydd yn ddim ond adfeilion, a'r anffydd- iaeth wedi ymwthio i mewn hyd yn oed i'r byd crefyddol ei hun. Yr oedd Dr. Oman yn efrydydd yn Edinburgh yr adeg y diswyddwyd yr Athro Robertson Smith. Mewn erthygl o'i waith, gesyd yr Athro A. C. Welch y canlyn- iadau yn gryno iawn wrth ddweud mai gwaith mawr yr ymchwil hanesyddol ydoedd dangos nad oedd y pethau hynny y gorffwysai yr Eglwys arnynt mor esmwyth a llonydd a digyffro-ei chredoau a'i Hysgrythur a'i sefydl- iadau-yh ddim amgen na chynyrchion oes neu oesau ar- bennig yn hanes y byd: ac o 'hynny, nad oedd modd eu deall ond o'r safbwynt hanesyddol. Ymhellach, o'u deall o'r safbwynt honno, fel cynyrchion meddwl dynion y tu