Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR IS-YMWYBOD YN OL Y CNAWD. WRTH geisio traethu ar Eneideg, hawdd ydyw ymgolli mewn termau a suddo i ddryswch damcaniaethau mwy neu lai anghyflawn, yn enwedig felly wrth drafod dirgelion is- ymwybod ein natur. Er hynny gellir dod o hyd i rai o wirioneddau'r is-ymwybod yng nghysgodion y byd materol. Oherwydd yn y byd materol y ceir cysgodion, a'r mwyaf ohonynt ydyw hwnnw a deifl yr enaid wrth iddo ymgnawdoli'n gorff byw. A chan edrych ar y corff fel ymgnawdoliad yr ehaid, ac nid fel gwisg, hawdd ydyw cydnabod mai gwyrth ydyw dyfod- iad pob un ohonom i'r byd. Daeth cyfran ein hetifedd- iaeth atom fel pe'n edrych am ei etifedd. A'r unig ffordd y medrai ddod o hyd iddo oedd trwy ei greu. Wrth i'r ysbryd ymaflyd yn y clai, aeth y clai yntau'n ebrwydd yn grochenydd. A dyna ydyw bywyd yn y cnawd, parhâd o'r weithred o greu: yr enaid yn ei ddatguddio'i hun yn barhaus pan yn ffurfio llinellau mwyaf cynnar ein llun, a phan yn troi'r llinellau hynny yn aml-liwiau boreol ein personoliaeth. Felly pan ddeuwn i syllu ar fywyd­-hanes y corff, gwelwn ein bod eisoes o fewn tiriogaeth yr Is-ym- wybod, gan mai yn y corff, hyd y gwyddom, y dechreua'r is-ymwybod weithredu. Ac am fod tiriogaeth yr enaid mor fawr, ac am nad yw'r enaid yn gyfyngedig i'r meddwl ymwybodol, gwelir yr Eneideg newydd yn cyrchu ar ôl yr Ymwybyddiaeth fwy sydd yn cynnwys dirgelion yr Is- ymwybod. i. Y mae bywyd y corff yh llawn o ffeithiau eneidegol. Yn y corff y mae swyddfa'r meddwl, ond dywaid yr awdur- dodau ar Fywydeg wrthym mai'n ddiweddar yn ein dat- blygiad yr ymddangosodd yr ymenydd a'r gyfundrefn nerf- ol wirfoddol, o'i chymharu â chyfundrefn arall a gwyd, ac a weithreda o amgylch y Chwarennau Ehdocrinaidd. Y mae'n debyg mae'r gyfundrefn endocrinaidd ydyw peir- ianwaith mwyaf boreol ac elfehnol ein natur. Nid oes dim y gwyddom amdano sydd agosach at ffynhonnell ein