Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ATHRONIAETH DDIWEDDAR. Y mae llu o lyfrau athronyddol yn llifo o'r Wasg yn y dyddiau hyn, ac efallai nad annerbynioü i rai, beth bynnag, o ddarllenwyr Y TRAETHODYDD fyddai hodiadau ar nifer cynrychioliadol ohonynt. Llefara'r athronwyr mewn lleisiau gwahanol, ac anodd yw osgoi syfrdandod yn swn eu llafar anghydsain. Mwy na hyn, ni ddeall yr athronwyr ei gilydd. Priodola'r naill syniadau sylfaenol y lleill i ragfarn dwfn ond anymwy- bodol; a chyda sêl proffwyd ceisia'u rhyddhau o'u caeth- iwed meddwl. Ceisiant hwythau dalu'r pwyth yn ôl trwy wneuthur yr un gymwynas i'w cymwynaswr anffodus. Cof gennym glywed dau o'n prif athronwyr yn trafod pwnc sylfaenol mewn athroniaeth ar fin hwyr rai blyn- yddoedd yn ôl. Parhaodd y drafodaeth am oriau, a phob un o'r ddau, yn ei dro, yn ceisio argyhoeddi'r llall o gywir- deb ei syniadau ei hun, gan gwbl gredu fod ei gyfaill yn cyfeiliorni. Moment fythgofiadwy oedd honno pan syl- weddolodd pob un fod rheswm yn yr hyn y dadleuai ei r. The Intelligible World Metaphysics and Value. By Wilbur Marshall Urban, Stone Professor of Philosoỳhy in Dartmouth College. London: George Allen and Unwin. 1929. 479 pp. Price I5/ 2. The Idea oj Value. By John Laird, Regius Professor of Philosophy in the University of Aberdeen. University Press, Cam- bridge. 1929. 384 pp. Price 18/ 3. Types of Philosophy. By W. E. Hocking, Salford Professor of Philosophy, Havard. London Charles Scribner and Sons. 1929. 462 pp. Price 7/6. 4. An Outline of Philosophy. By Bertrand Russell. London George Allen and Unwin. 1927. 317 pp. Price 12/6. 5. Mind at the Crossways. C. Lloyd Morgan, D.Sc, Ll.D., F.R.S. Emeritus Professor in the University of Bristol. London Williams and Norgate. 275 pp. Price 10/6. 6. The Philosophy of John Dewey. Selected and Edited hy loseph Ratner, Columbia University. London George Allen and Unwin. 56o pp. Price 16/