Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hocking fod yr Idealiaid, er iddynt grwydro llawer, wedi troedio'r briffordd. Ohd credant fod gwirionedd yn rhywbeth amgenach nag offeryn i hyrwyddo amcanion bywyd. Y mae'n gwneuthur hyn; ac o'i ystyried fel offer- yn yn unig bu'r ffurf Idealaidd ar y gwirionedd o werth dirfawr i ddynion yn unigol ac yn gymdeithasol drwy'r oesau. Angen mawr meddwl y byd heddiw yw'r ffydd a'r weledigaeth Idealaidd a mynegiant ohoni mewn iaith ddealladwy. Y Bala. DAVID PHILLIPS. ADOLYGIADAU. OUR NEW RELIGION. An Examination of Christian Service. By the Rt. Hon. H. A. L. Fisher, F.R.S., Warden of New Cottege, Oxford. London Ernest Benn Limited. 1929. 191 pp. 6/ MRS. EDDY. By Edwin Frauden Dahin. London Charles Scrib' ner and Sons. 1929. 553 pp. 21/ Hanes rhyfedd yw hanes y moddion a gymer dyhead crefyddol dyn i'w ddiwallu ei hun. Ac un o'r moddion rhyfeddaf yw Christian Science, y grefydd newydd a gychwynnwyd gan Mary Baker Eddy yn yr Unol Daleithiau yn y flwyddyn 1877, a hithau yn 56 oed. Erbyn hyn perthyn i'r grefydd yn agos i ddwy fil o eglwysi; a cheir hwynt ym mhob gwlad ag y mae Saesneg yn brif iaith ei phobl. Y mae 165 ohonynt yn Lloegr a Chymru, ac ymddengys bod dylanwad y grefydd yn cynyddu 0 ddydd i ddydd. Cof gennym ddarllen dis- grifiad Mark Twain o'r Christian Scientists tua'r flwyddyn 1907. Dywedai mai'r hyn a'i synnai ef oedd eu sirioldeb parhaus a di- bryder. Yr ydym bawb ar i fyny ar brydiau, ond gwyr y gweddill ohonom am blyciau o ddigalondid a phryder rhwng y prydiau siriol. Ond nid yw'r bobl hyn, meddai, hyd y deallaf, yn dioddef oddi wrth brudd-der a digalondid. Y maent fel pe wedi darganfod dirgelwch tangnefedd parhaol. Ac awgrymai Mark Twain y rhennid y byd Cristnogol ymhen can mlynedd rhyngddynt a'r Pabyddion. Ond nid ydym yn tybio y gall neb ei gredu ar ôl darllen llyfrau Dakin a Fisher. Olrhain Dakin yn fanwl fywyd Mrs. Eddy: y modd y cych- wynnodd ei chrefydd-yr unig wraig mewn hanes a lwyddodd i gych- wyn crefydd newydd; y modd yr ysgrifennodd ei hysgrythur, unig safon ei ffydd; y sylfaenodd eglwys, ac y lluniodd ei chyfansoddiad, gan osod i lawr reolau sefydlog oedd i lywodraethu ei gwithrediad- au hyd byth. Sicrhaodd hefyd na fyddai iddi olynydd fel pen yr eglwys trwy roddi ei llywodraeth yn nwylo ymddiriedolwyr; yn eu dwylo hwy hefyd y rhoddodd y ffortiwn a ennillodd ynghyd â llyw- odraeth papur dyddiol a sylfaenodd, y Christian Science Monitor, papur sydd yn parhau hyd heddiw, ac yn un o newyddiaduron gorau'r byd. Cafodd gynhorthwy llawer o'i disgyblion 'galluog i wneuthur ei gwaith, ond ymddengys mai hi oedd pen-llywydd y cwbl. Dyna waith dirfawr gan wraig oedd yn wanllyd nerfws, ac yn ei han-