Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BANNAU'R FFYDD. Dehongliad Beirniadol o Brif Athrawiaeth- au'r Grefydd Gristnogol. Gan D. Miátt Edwards, M.A. (Rhyd.); B.A., Ph.D. (Llun.); D.D. (Cymru). 403 td. Wrec sam, Hughes a'i Fab. 12/6. Bannau'r Ffydd ydyw'r cais cyntaf yn Gymraeg er ys llawer dydd, i roddi trem inni ar faes eang Diwinyddiaeth, a'r cyntaf un i gyflwyno inni syniadau diweddar ar brif athrawiaethau'r Ffydd. Gwaith arloesydd ydyw. Gwaith anodd ydyw gosod Diwinyddiaeth mewn diwyg Gymreig. Synnwn yn fawr at waith y Golygydd yn rhoddi pennod gyfan yn Y DRYSORFA i drafod manion iaith y llyfr, heb gydnabod y gwasanaeth enfawr a wneir ynddo i lunio ymad- roddion a thermau sy'n galluogi Diwinyddiaeth i siarad yn Gymraeg. Pob rhyddid wrth gwrs i'r Golygydd a'r Parchedig D. Tecwyn Evans, M.A., i wneuthur gwaith cyffelyb yn Y BRYTHON, os ydynt yn cael cymaint blas ar hidlo gwybed. Gwnâ'r Dr. Miall Edwards well gwasanaeth i Gymraeg ac i Ddiwinyddiaeth trwy wneuthur ys- grifennu ar Ddiwinyddiaeth yn Gymraeg yn haws i bwy bynnag a ddaw ar ei ôl. Gwasanaeth mawr i ddarllenwyr Cymraeg hefyd ydyw cyflwyno dan ben ac mewn dosbarth, popeth yn ei Ie ei hun, y gwahanol bynciau sy'n ffurfio prif faes Diwinyddiaeth heddiw. Ac yn sicr nid lleiatf o ragoriaethau llyfr ydyw ei fod yn ddarllenadwy ac yn ddiddorol. Traddodwyd llawer ohono yn anerchiadau ar wa- hanol achlysuron, fel gyda'r cyfleu trefnus ar y materion a'r meddwl clir wrth eu trafod, teimlir hefyd yn y llyfr lawer o swae a nwyd y siaradwr, a choeliaf na ddywed neb o hyn allan fod darllen llyfr o bedwar cant o dudalennau ar Ddiwinyddiaeth yn feichus. Craidd y llyfr ydyw'r bennod ar Berson Crist. Try prif syniad- au'r awdur yn y penodau ar Iachawdwriaeth a'r Iawn, yr Athraw- iaeth am Dduw ac am Y Drindod, ar ei syniadau am Berson yr Ar glwydd Iesu. Y mae'n lled sicr mai'r syniadau olaf hyn a gaiff y sylw pennatf, gan y byddant yn newydd i lawer o'r darllenwyr, a phan na byddant, ceir ynddynt fynegiad galluog o un teip o athrawiaeth am Berson Crist. Iddo ef Crist ydyw man cyfarfod dau fudiad mawr, ymchwil Duw am ddyn, ac ymchwil dyn am Dduw. Yr esboniad arno ydyw fod Duw yn preswylio mewn modd neilltuol yng Nghrist, gan wneuthur ei isymwybyddiaeth yn eisteddle iddo'i hun, yn 61 damcaniaeth Sanday, a'i fod yntau o'i du ef wedi ymateb trwy agor ei tfywyd yn llawn i Dduw, a meddiannu, hyd y gellid, holl gyflawn- der y Duwdod. Duw bioedd yr initiative; camp a gorchest ysbrydol Crist yw ystad ei fywyd oedd y bersonoliaeth orffenedig. Nid oedd Crist yn bod cyn ei enedigaeth, fel nad oes Ie yn y ddamcaniaeth i'w gynhanfodiad yn y Duwdod, nac i'r Duwdod tfel Trindod o Bersonau; ond honnir y diogelir gwerth crefyddol cynhanfodiad," oherwydd fod y gwerthoedd a ddatguddir yng Nghrist yn bod yn dragwyddol yn Nuw. A hawlir finality i Grist oblegid nad oes dim mwy yn Nuw na'r cariad a ddatguddir yng Nghrist. Y gwrthwyneb hollol ydyw'r ddamcaniaeth i'r hyn a gynigiai Prifathro T. C. Edwards yn Y Duw Ddyn. Buasai'n hwylustod pe gellid cytuno ar ffordd fer i gyfeirio at y gwahanol syniadau. Y Duw-Ddyn oedd gan Principal Edwards mewn gwirionedd-y Tragwyddol Fab wedi ym- wacáu a dyfod yn ddyn heb beidio â bod yn Dduw-a'r Duw-Ddyn sydd gan y Dr. Miall Edwards. Ond gan fod y Duw-Ddyn a'r Dyn- Dduw yn amwys, awgrymaf y gellid cytuno i gytfeirio at yr Arglwydd Iesu yn 61 yr Athrawiaeth Draddodiadol yn Dduw ac yn Ddyn; yn 61 damcaniaeth y Prifathro Edwards fel Y Duw Dynol, ac yn ôl y Dr. Miall Edwards fel Y Dyn Dwyfol. Am oleuni pellach, a beirn-