Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TESTAMENT NEWYDD Ei Hanes a'i Gynnwys. Gan y Prif- athro J. Morgan Jones, M.A. Caerdydd Gwasg Prifysgol Cymru. i.­viii., 1­186 td. 2/6. Dyma'r ail gyfrol yng Nghyfres y Brifysgol a'r Werin; ac os ceidw'r cyfrolau sydd i ddod yn agos at safon y llyfr hwn ac un Mr. R. T. Jenkins a'i rhagflaenodd, bydd dyled darllenwyr yng Nghymru heddiw yn un ddofn iawn i'w Phrifysgol. Trafod y Testament Newydd mewn ffordd olau, glir ac argy- hoeddiadol a wnâ'r Prifathro Morgan Jones yn y gyfrol hon, ac yn un o'r penodau dyma ei ddisgrifiad o'r Testament Newydd Rhodd werthfawrocaf Duw a hanes i ddyn a chymdeithas yw. Offeryn yn llaw Duw i'w drosglwyddo fu'r Eglwys, — cytfrwng i hyr- wyddo'i neges a'i ddylanwad heb dâl na diolch na hawl arno. Ganddo ef y mae hawl gynhenid ar ei hufudd-dod hi er mwyn profi yn ei bywyd ei nerth dihafal a'i awdurdod diamod gerbron y byd." A phan ofyn yr awdur beth yw sylfaen awdurdod a gwerth y Testament Newydd, fel hyn yr etyb Ystyr a mesur gwerth ac awdurdod y Testament Newydd yw mai trwyddo ef y cawn y datguddiad effeithiolaf a llawnaf o'r del- frydau crefyddol a moesol mwyaf aruchel a ddaeth i galon dyn erioed ac o'r cymhellion a'r ysbrydiaeth rymusaf a brofwyd gan neb erioed wrth geisio eu sylweddoli ym mywyd ymarferol dynoliaeth. Amlwg yw na ddibynna gwerth ac awdurdod y Testament ar allanol- ion tarddiad a hanes y llyfrau. Mwy na hynny, ni pherthyn yr un mesur o nerth ac awdurdod i bob llyfr ynddo nac i bob rhan o'r un llyfr chwaith. Y mae graddau yng ngwerth ac awdurdod, datgudd- iad ac ysbrydoliaeth y gwirioneddau, yr egwyddorion, y profiadau a'r personau a ddisgrifir." Rhydd y ddau ddyfyniad hyn syniad inni am ddwy egwyddor a lywodraetha holl drafodaeth Mr. Morgan Jones yn y llyfr cyfoethog hwn-cred ddiysgog yng ngwerth arbennig y Testament Newydd ymhlith llytfrau'r byd, a chred yr un mor ddiysgog fod yr hen syniad am ei darddiad yn anghywir ac yn ei gwneuthur yn amhosibl inni weled gwir ogoniant y Testament Newydd. Ac anodd fydd i unrhyw un ddarllen y llyfr yma'n onest heb gydnabod gwirionedd y ddwy egwyddor yma a chydnabod, yr un pryd, degwch a chryfder ymres- ymiad yr awdur. Fel yr awgryma'r Rhagair, nid arweiniad i'r Testament New- ydd yn ystyr gyffredin y gair yw'r gyfrol hon, ond ymdriniaeth ragarweiniol ar le a gwerth y Testament Newydd mewn Hanes, Llen- yddiaeth a Chrefydd;" a rhennir y llyfr yn dair adran ar hyd y llinellau hyn. Yn yr adran gyntaf, er enghraifft, ceir llawer o wy- bodaeth am hanes ysgrifennu a chasglu'r Testament Newydd, am hanes y cyfnod y tarddodd y Testament Newydd ohono, a phrif fannau hanes y Mudiad Cristnogol. Yn yr ail ran ymdrinir â'r cwestiynau llenyddol y dylid sylwi arnynt wrth dratfod y Testament Newydd fel cofadail ardderchocaf llenyddiaeth y ganrif gyntaf." Wedi dywedyd mai benthyg yw pob ffurf lenyddol arall yn y Testa- ment Newydd, dyma a ddywedir am yr efengyl "wedi chwilio'r holl fyd am gymdeithion llenyddol i'r Efengyl," ni chafwyd dim ym mywgraffiadau na hanesion nac atgofion y Groegwr na'r Iddew i argyhoeddi llenorion mai benthyg oedd." Dilynir y drydedd adran (ar Grefydd) gan bennod werthfawr ar Ddefnyddio a Chymwyso'r Testament Newydd, ac ar ddiwedd honno ceir amryw dudalennau a rydd gyfarwyddyd ynglyn a'r llyfrau gorau i'w darllen.