Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nid rhaid yw cytuno â phob gosodiad o eiddo'r awdur na derbyn ei farn ar bob pwnc, a thebyg y dywed amryw ei fod yn rhy amharod i dderbyn ambell gasgliad a ymddengys iddynt hwy'n sicr. Ond rhaid ydyw i bawb gydnabod bod gwybodaeth hynod o fanwl a llwyr tu ôl i bob tudalen o'r gyfrol hon, a thrwyddi draw ceir trafodaeth ardderchog ar amryw faterion fel honno ar ddiwedd y ddegfed ben- nod, er esiampl, ar y gwahaniaeth a'r tebygrwydd rhwng syniadau Crist a syniadau Paul. Byddai'n wir dywedyd nad yw'r arddull bob amser yn hapus: ceir weithiau frawddegau meithion nad ydynt eglur iawn, a thuedd i bentyrru geiriau ar ei gilydd. Cydymdeim- lwn yn arw ag un gair sy'n gorfod gweithio'n galed iawn drwy'r llyfr-y gair diben gallesid rhoi gorffwys iddo aml dro, a defnyddio amcan, pwrpas neu nod yn ei le. A beth am ffurfiau fel y cwbl hyn (td. 102 yn lle 'y cyfan '), 'yr iaith fwyaf fratiog (td. 113), y mae hawl gan y Testament Newydd ar y feirniadaeth lawnaf' (yn lle hawlia (td. 4), ac amryw eraill? Ond annheg ac amhriodol yw galw sylw at feiau bychain fel hyn heb eto ddiolch am lyfr mor rhag- orol ac mor amserol. Y Bala. G. A. Edwards. CANIADAU, gan John T. Job. Llyfr I. Caernarfon Llyfrfa'r M.C. 4/6. Weithiau byddaf yn meddwl mai iachawdwriaeth i'r Gynghanedd a fyddai iddi ddryllio bellach hualau y pedwar mesur ar hugain. Er mor odidog llawer o'r pethau a ganwyd o fewn terfynau'r mesurau hynny, hawlia gwin newydd profiadau oes newydd gostrelau newydd- ion i'w gadw. Meddylier bod rhywun yn Lloegr er dyddiau Chaucer wedi gwahardd i'w beirdd ganu ond ar bedwar mesur ar hugain cydnabyddedig Ni chawsem hyfrydwch mesurau newydd o oes i oes ac o fardd i tfardd ac o destun i destun. Yng Nghymru mynnodd y gwin newydd fel rheol ei gostrel ers cenedlaethau yn y canu rhydd, a chredaf mai yn y mesurau rhydd y gwelir y rhan fwyaf o'n barddoniaeth orau o hyn ymlaen. Y mae pererindod Mr. Williams-Parry oddi wrth gelfyddyd y mesurau caeth at gelfyddyd y mesurau rhydd yn arwyddocaol o awen y dydd. Ar yr un pryd y mae'r gynghanedd yn beth rhy hyfryd a nod- weddiadol Gymreig inni allu fforddio ei cholli. Pwy a wyr nad tfel addurn ychwanegol i beroriaeth pennill rhydd y gwasanaetha cyn bir, yn ôl fel bo'r glust yn galw amdani,­dan ras ac nid dan y ddeddf. Un o'r rhai ag yr ydym fel cenedl yn ei ddyled am ddangos inni'r ffordd fwy rhagorol hon yw J. T. Job. Er iddo ennill y Gadair Gen- edlaethol am ei awdlau, rhydd imi gyfaddef na ddarllenais i'r rheini a'r fath fwynhad â thelynegion y gyfrol hon. Yn wir efallai mai bwrw ei brentisiaeth yr oedd ar y darnau meithach hynny er mwyn dyfod yn gynganeddwr digon medrus i lunio rhai o'r telynegion cynganeddol melys sydd yn y gyfrol hon, a llinellau mor berffaith eu mynegiant ag "Mon Duw a lif yn dawel."­(Y Dyfroedd Tawel). neu Mor ddi sŵn â'r milmyrdd sêr."­(Bugail y Briallu). Y mae dawn y baledwr hefyd i fesur anghyffredin iawn gan Mr. Job. Pe caem ragor o gerddi tebyg i'w Faled: Pennaeth y Gwyll-