Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(Tudur Aled, ar ei glaf wely, y diwethaf oll o'i waith). Rhif I. yw'r gyfrol hon o Gyfres Ddeunaw Gwasg Aberystwyth. Os bydd y cyfrolau sydd i ddilyn cystal â hi, ni allaf fforddio colli yr un ohonynt. Penmaenmawr. CYNAN. THE UNITY OF BODY AND SOUL The value of the Body in Christian Teaching and Modern Thought. By F. Townley Lord, D.D. Student Christian Movement. 8/6 net. 256 pp. Wrth ddarllen y gyfron hon daeth un o athronwyr cymharol ddi- nod Groeg cyn Socrates yn fyw iawn o flaen ein meddwl. Mae'n wir na wna Dr. Townley Lord gymaint a chyfeirio at Xenophanes; er hynny, methem yn lân â pheidio cyferbynu syniad y gwr hwnnw am y corff ag eiddo awdur y llyfr a adolygir yn awr. Gwawdiai'r Groegwr y corff ynghyd â'r holl ymdrechion a wnaed gan ei gyd-oes- wyr, drwy chwareuon, &c., i'w ddatblygu a'i harddu. Mwy na hynny, credai ef mai syniadau materol y beirdd, Homer a Hesiod, am y duwiau a gyfrifai am ystad isel crefydd yn y wlad. Fodd bynnag, er mai ar lefel gyffelyb i Xenophanes yr ymres- yma'r Dr. Townley Lord (gan ddyfod i gasgliadau gwahanol), eto i gyd fe ymddengys, oddi wrth y cyfeiriadau parhaus a wneir at Plato ac at Blatoniaeth, fel petai yma ymdrech athronyddol deg i fyned o dan sail dysgeidiaeth y Phaedo, lle, fel y cofir, y dadleuir y rhagora'r enaid ar y corff ac y disgrifir awr yr ymddatodiad fel awr gwaredigaeth yr enaid. Dadl fawr yr awdur yw bod y corff yn bwysig ac yn werthfawr. Dywaid nifer o bethau amlwg iawn ar ddechreu'r gyfrol, ac hefyd, pan yw'n tynnu tua'r terfyn, gwna sylwadau lled gyffredin. Er enghraifft dywaid, ar y cychwyn, fod yr enaid yn gysylltiedig â'r corff yn y byd a'r bywyd presennol, ac fod gan y corff ddylanwad ar y meddwl. Wedyn, ar y diwedd, deil fod posibl sôn am y byd materol fel datguddiad o Dduw" (td. 238), ac fod y byd materol, ymhellach, yn gyfrwng i fynegiad dynol (td. 243). Fe rydd bwys- lais neilltuol ar unrhyw ddysgeidiaeth, hen neu newydd, sydd yn tueddu i gysylltu'r coff â'r bersonoliaeth ddynol. Cyfeiria at drig- olion yr hen oesau yn synio am bopeth fel yn faterol ac yn fedd- iannol ar ffurf gorfforol. Temtir ni i ofyn, a oes unrhyw werth, heb- law gwerth hanesyddol, yn hynny i ni ? Er bod pobl gyntefig rywsut yn ymwybodol fod yna ryw elfen yn eu cyfansoddiad heblaw'r corff, eto, yn eu hanallu i wahaniaethu cwaliti oddi wrth gwantiti, edrych- TRUGAREDD. Fy Nuw, igwel finnau, Owen; trugarha At ryw grydd aflawen Fel y gwnawn pe bawn i'n ben Nef, a thi o tfath Owen !-(Dienw). YR ENGLYN OLAF. Er ffrydiau gweliau gloywon yr Iesu Er ei ysig ddwyfron Er gwaed ei holl archollion Na bwy'n hir yn y boen hon