Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ent ar y corff fel ffurf i'r enaid a dyna'r cwbl. Fodd bynnag, â'r awdur yn ei flaen i olrhain ymhellach y lle a roddir i'r corff yn nysg- eidiaeth yr Hen Destament, y Testament Newydd, y Tadau Apostol- aidd, diwinyddiaeth yr Oesoedd Canol, ac yn athroniaeth, gwyddon- iaeth, a meddyleg y canrifoedd diwethatf hyn. Y mae'r gyfrol yn hawdd ei darllen ac yn wir ddiddorol mewn mannau. Cynnwys lawer o wybodaeth werthfawr mewn perthynas â'r Beibl, yr Eglwys Gristnogol, ac hyd yn oed (o safbwynt poblog- aidd) mewn perthynas ag Athroniaeth, hen a newydd. Ond tueddwn i farnu, gan bod gwerth gwirioneddol y gytfrol yn dibynnu ar ei hathroniaeth a'i meddyleg, nad ydyw hi o'r safbwynt yma yn neill- tuol o bwysig. Y mae'r hanes a gynnwys yn werthfawr, a diau y gellir dweud fod yr awdur wedi llwyddo i gynhyrchu llyfr lled bobl- ogaidd. Ond tuedda i fod yn llac, ac y mae rhai o'r egwyddorion y seilir yr holl ddadl arnynt yn arwynebol. Gan hynny anodd priodoli pwysigrwydd eithriadol i'w gasgliadau. Er enghraifft, dywaid fod holl fywyd dyn, mewn ystyr wirioneddol â'i wraidd yn y corff, ac y dangosir hynny yn glir gan ei brofiad. Y mae'n ffaith, fel y dywaid Pringle Pattison, yr hwn a ddyfynnir ganddo, yr erys y corff trwy gydol bywyd, yn gyfrwng yr edrychwn allan ar y cyfanfyd trwyddo, ond nid yr un peth yn hollol ydyw dweyd hynny a haeru, fel y gwna'r Dr. Lord, y gwreiddir yr holl fywyd yn y corff. Ac os mai mewn ymwybyddiaeth o feddiant ar aelodau corfforol y daw plentyn gyntaf oll yn ymwybodol o'i hunan, ni olyga hynny fod yr aelodau yn gyfrifol am yr ymwybyddiaeth. Prin, felly, y treiddia athroniaeth yr awdur yn ddigon dwfn. Ni ellir lai na chytuno â'i sylwadau ymarferol ynghylch gwerth y corff a'r gotfal a ddylid ei roi iddo, ac hefyd ynghylch y pwys- igrwydd o geisio gwella amgylchedd faterol dynion. Ond ofnwn mai prin y llwydda i ddangos fod yn rhaid wrth y corfforol am dragwydd- oldeb. Cawn ef yn cyfaddef bod yr Iesu yn pwysleisio'r ysbrydol yn fawr iawn, ond gofyn ar ben hynny a ydyw pwyslais ysbrydol o'r fath o angenrheidrwydd yn cau allan y syniad o ryw ffurf ar fywyd corfforol fel yn anhebgorol i tfywyd cyflawn ? (td. 52). Dadl fawr y llyfr ydyw y dylid rhoddi ateb cadarnhaol i'r gofyniad hwn, a thrwy hynny ategu syniad diwinyddiaeth draddodiadol am atgyf- odiad, ond bod angen newid peth ar y syniad hwnnw. Ph. J. J. 1. THOMAS BIRCH FREEMAN THE SON OF AN AFRICAN. By F. Deaville Walker. 221 pp. Student Movement. 5/- net. 2. TUCKER OF UGANDA. ARTIST AND PEOPLE. By Arthur P. Shefherd, M.A., B.D. 206 pp. Student Christian Movement. 5/- net. Dwy gyfrol o gyfres yw'r rhai hyn. Trefnir y gyfres gan yr United Council for Missionary Education, a dyma'r wythfed a'r nawfed gyfrol. (1) Tua'r adeg y darllenem y gyfrol ar Freeman,, hysbysid am farw William Wade Harris, gwr o Affrica a arweiniasai 20,000 at Grist erbyn y flwyddyn 1925, cyn dyfod un cenhadwr gwyn i blith ei bobl ef, un o lwythau glannau Gorllewin Affrica. Ychydig a wyddys am ddyddiau cynnar ei fywyd, ac eithrio iddo fod yn nhref Lagos-