Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. NODIADAU CYFFREDINOL. UN o'r sefydliadau crefyddol a gaiff raddau helaeth o sylw y dyddiau hyn ydyw'r Ysgol Sul. Y mae amryw resymau dros 'hyn. Digwydd y cofir eleni'n arbennig am ddau fudiad mawr bendithiol yn hanes ei gorffennol. Y mae dau gan mlynedd er pan gychwyn- nodd Grifnth Jones, Llanddowror, ei Ysgolion Cylchyn- ol; a hefyd y mae'n 150 mlynedd er yr adeg y sefydlodd Robert Raikes ei Ysgol Sul yn ninas Caerloyw. Ac ar wahân i'r ddau ddathlu hyn, rhoddSr sylw neilltuol y blynyddoedd hyn i Addysg ymihob ffurf arm; a phan sonnir cymaint am ail-drefnu addysg plant a phobl ifanc drwy'r wlad, a phan gyhoeddir hefyd bob blwyddyn gynifer 0 'lyfrau ar amrywiol agweddau'r pwnc hwn, ni ddianc Ysgolion Sul ein gwlad rhag bod yn destun sylw a thrafodaeth. Yn ddiweddar ibu Cymdeithasfa'r Gogled'd yn trin safle bresennol yr Ysgol Sul. Fel ffrwyth sylwadau a wnaethid y llynedd, penodwyd pwyllgor i ystyried! ei chyflwr, a chyflwynai hwniiw ei adroddiad ddiwedd Mawrth yng Ngwrecsam. Rhoddid amrywiol resymau dros y lleihad a welir er dechrau'r ganrif hon yn y nifer a fynycha'r Ysgol, a nodid hefyd yr hyn a fernid oedd y feddygin- iaeth. Prif adhos y lleihad, yn ôl yr adroddiad, yw di- faterwch a chlaearineb crefyddol. Olrheinid hwnnw dra- chefn i nifer o ddylanwadau, ymysg y rhai yr enwid di- rywiad mewn parch i'r Saboth, siglo ffydd yii awdurdod y Beibl, a thuedd pobl oherwydd prysurdeb a phethau eraill i beidio â myned i dri chyfarfod y Sul. Ac fel medd- yginiaeth gelwid am i'r eglwysi drefnu cenhadaeth ym- hob ardal, ac am inni oll weddio am ymweliad yr Ysbryd Glân. CYF. LXXXVI. RHIF 376. GORFFENNAF, 1930.