Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MWSTAFFA KEMAL: LLUNIWR TWRCI NEWYDD.* WEDI dyddiau'r rhyfel," ebe cyfaill o Ffrancwr wrthyf, ",dau gamgymeriad mawr eich cyd-wladwr, Mr. Lloyd George, ydoedd synied yn rhy uchel am y gwleidydd Groegaidd Venizelos, a meddwl rhy ychydig o Mwstaffa Kemal Pasha." Ond y mae dtwy ochr i hyn hefyd. Er eu holl ragoriaethau ni allai'r Ffrancod gynt ddeall yn iawn ddigllonedd moesol gwr fel Gladstone, pan ruthrai o'i encil i gymryd plaid y Bwlgariaid yn erbyn creulon- deb y Twric; nac amgyffred gwaith gŵr fel y Dr. Joseph Parker yn mynegi llais y Gydwybod Ymneilltuol yn y frawddeg honno o'i eiddo a hirgofir, mewn pregeth ym mhulpud y City Temple—" Duw a ddamnio'r Swltan;" naic yohwaith werthfawrogi'n llawn aberth un fel Rupert Brooke, a roes ei einioes i achub Caergystennyn o afael y Twrc. Diau fod a,gwedd Mr. Lüoyd George tuag at Dwrci yn hollol gytuno â'r farn gyhoeddus aeddfetaf ym Mhryd- ain. Yn Chwefror 1920 cyflwynwyd iddo femorandwm, wedi ei arwyddo gan Archesigobion Caergaint ac Efrog, Esigob Llundain, yr Arglwydd Robert Cecil, yr Arglwydd Bryce, ac eraill. Yn y memorandwm hwnnw dywedai'r arweinwyr cyfrifol hyn mai gwartlh a fyddai gadael Caer- gystennyn yn nwylo'r Twrc. B'uasai Caergystennyn, meddeht, ers canrifoedd yn ganolfan i gynllwynwyr, a pharhai yn llawn llygredd gwleidyddol cyhyd ag y bydd- ai i unrhyw raddau dan awdurdod Llywodraeth Twrci. Ar y llaw arall, diau fod M. Herriot, y Sosialydd Radical- aidd a oedd yn Brifweinidog Ffrainc yn ystod gweinydd- íaeth ½gyntaf Mr. Ramsay Macdonald, yn cynrychioli barn Ffrainc pan ddywedai: "Ni freuddwydiodd Ffrainc er- ioed am ddial ar Dwrci, a dymuna Ffrainc am i Dwrci Sgráfennwyd yr ysgrif hon, fel yr un ar Benito Mussolini, a gyhoeddwyd yn ihifyn Ionawr, 1930, yn Saesneg. Fel honno tros- wyd hi i'r Gymraeg gan Mr. Huw Roberts, B.A., o Goleg y Bala; ond nid af sy'n gyfrátfol am ffurf enwau personau a lleoedd a geir ynddi.