Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MATER—BETH YDYW ? Cyn ceisio dweud beth yw Mater, gadawer inni sylwi yn gyntaf ar rai o'i briodoleddau. Hysbys yw i bawb fod mater i'w gael mewn tair ffurf—fel corff caled megis haearn neu garreg, fel hylif (dwr, dyweder) ac fel nwy, Sylwn hefyd fel y gall unrhyw fath ar fater fodoli ym mhoib un o'r ffurfiau hyn. Gwelwn hyn yn eglur ynglyn â dwr. Hawdd yw oeri dwr a'i droi yn rhew, neu ei gyn- hesu a'i droi yn ager, yr hwn sydd nwy anweledig. Yn yr un modd, ond codi digon ar ei wres, gellir toddi haearn ac yn wir ei droi yn nwy. A'r un modd hefyd, trwy wasgu ac oeri digon ar yr awyr yma sydd o'n cwmpas, gellir ei droi yn hylif a'i rewi wedi hynny yn gorff caled. Sylwn yn nesaf ar dair o Ibriodoleddau hanfodol sydd yn perthyn i fater yn gyffredinol. (i) Ni ellir creu na dinistrio mater. O leiaf nid yw hyn yn digwydd ar y ddaear. Ond fe gawn ymdrin ymhellach ymlaen â'r cwestiwn hwn pan yn sôn am fater ym myd y ser. (2) Mae pob telpyn o fater yn y greadigaeth yn atynu pob telpyn arall,­yn ôl deddf disgyrchiant Isaac New- ton, ac wrth gwrs hyn sydd yn peri fod i bob gwrthrych ar wyneb ein daear bwysau arbennig, oherwydd yr atyn- iad cydrhwng y ddaear â'r gwrthryoh. (3) Priodoledd hanfodol arall yw anegni mater (in- ertia), (hynny yw, y duedd sydd mewh mater i aros yn ei unfan, neu-os yn symud­i barhau i symud. Gwelir y briodoledd hon mewn gweithrediad pan fyddom yn teithio mewn cerbyd p unrhyw fath. Os cychwynna'r cerbyd yn sydyn ac annisgwyliadwy, ymae perygl i'r teithiwr syrthio yn ôl wysg ei gefn. I'r gwrthwyneb, os digwydd i'r cer- byd arafu'n sydyn, parha'r teithiwr i fynd yn ei flaen, neu fel y dywedir yn gyffredin, fe'i teflir ar ei ben allan o'r certbyd. Y briodoledd hon sydd yn achosi canlyniadau trist gwrthdrawiad rhwng dwy drên ar y rheilffordd. Gadawer inni yn awr geisio edrych i mewn i gyfan- soddiad telpyn 0 fater, telpyn bychan o bIwm, dyweder.