Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn ein hysgrif ddiwethaf* buom yn ysyried nodweddion profiad yn gyffredinol. Gwelsom nad yw profiad dyn 011 ar yr un lefel o ran ansawdd, eithr yn hytrach y gellir ei raddoli ar lefelau is ac uwch yn ôl safon gwerth. O'r safbwynt hwn, rhanasom brofiad i'n hamcan presennol i bedwar gradd, (i) y profiad synhwyrol, sef ein canfyddiad o'r byd naturiol a materol trwy synhwyrau'r corff (2) y profiad ysbrydol yn ystyr eang y gair "ysbrydol," sef dir- nadaeth o'r gwerthoedd Daioni, Prydferthwch, a Gwir- ionedd, eithr heb ymdeimlad uniongyrchol o Dduw; (3) y profiad crefyddol; (4) y profiad Cristnogol, sef y ffurf uchaf ar yr un blaenorol. Gwnaethom sylwadau pellach ar y ddau gyntaf. Yn awr deuwn at y ddau olaf. (3) Y Profiad Crefyddol. Fe dybia hwn berthynas fwy neu lai pendant â Duw. Gwelsom fod gwerthfawrogiad o Ddaioni, Prydferthwch a Gwirionedd fel delfrydau, a theyrngarwch ymarferol iddynt, i ryw raddau yn bosibl heb yr ymdeimlad o Dduw fel eu sail a'u ffynhonnell. I'r graddau hynny gellir cael profiad "ysbrydol" heb i hwnnw gyrraedd ei aeddfedrwydd llawn yn y ffurf o brof- iad "crefyddöl." Ond gwelsom hefyd fod ymgyflwyn- iad diffuant i'r gwerthoedd a nodwyd yn gosod dyn ar y briffordd sydd, o'i dilyh hyd yr eithaf, yn arwain yn syth at Dduw. Y mae i bob teip o brofiad ei wrthrych neu ei gyfundrefn o wrthrychau nodweddiadol ei hun, a Gwrth- rych Eithaf y profiad crefyddol yw'r Bod y rhoddir yr enw Duw arno. Wrth grefydd y golygwn y syched a'r ymchwil am y Realitá eithaf a chwbl foddhaol­yr ym'chwil honno sydd mewn un ystyr yn anniwall ond sydd mewn ystyr arall beunydd yn ddarganfyddiad ac yn gaffaeliad cyhyddol-a saif y ,gair Duw am y Realiti hwnnw. Gweler Y TRAETHODYDD, Ebrill, 1930. PROFIAD YSBRYDOL. (Parhad). III.