Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IEUAN GLAN GEIRIONYDD FEL EMYNYDD. Y MAE'R darlun gennyf yn berffaith glir o'm blaen y funud yma: y capel yn ystod gwasanaeth yr hwyr fin nos wlyb ferfaidd yn y gaeaf: aroglau cotiau gwlyb yn codi ym mhoethder gwres dynion a fu yn y capel deirgwaith, ac anhawster hogyn bach i gymryd 'ei anadl yn y cymysgedd hwnnw o dawch a sawyr y nwy a led-oleuai'r adeilad: ar ddiwedd y bregeth y gweinidog yn cyhoeddi fod hwn a hwn wedi myned i'w hir gartref, a'n bod yn canu'r emyn hwn neu acw ar ei ô1. Mwy na thebyg mai Ar lan Ior- ddonen ddofn ydyw. Ni roddir byth ar bapur effaith y á canu ar ôl gwr ar enaid hogyn bach-y tristwch o weled deigryh rhywun a fo'n eistedd yn ystod y canu, â phawb arall yn sefyll, a'r dychryn wrth glywed y sôn am arswyd Iorddonen ddofn. Beth ydyw'r Iorddonen ddofn y sonia pawb amdani mor athrist? Ac erys atgof perffaith fyw o'r pictiwr hwnnw o eiddo'r hogyn ar y pryd, lle y gwelai flaenoriaid y capel i gyd mewn taclau ymdrochi yn rhynnu ar lan afon Ddyfrdwy ac ofn arnynt gymryd naid i mewn. Eithr beth amgen a allai oedi'n nychlyd" ei olygu? Nid chwarae plant, ychwaith, ydoedd meddwl amdanynt fel hyn; 'roedd yn realiti dychrynllyd. Ond o dipyn i beth, fel y tyfai'r hogyn, dechreuai an- turio ychydig i mewn i dudalennau'r Llyfr Emynau. Daeth o hyd i'r emynau canu ar ôl pobl a fuasai farw, a rywsut heu'i gilydd fe'i swynwyd gan rai ohonynt, a chan rai Ieuan Glan Geirionydd yn arbennig. Beth tybed ydyw swyn yr emynau hyn am Angau a Thragwyddol- deb," fel y'u gelwir yn Llyfr Emynau'r Methodistiaid? O astudio unrhyw gasgliad o emynau, fe sylwa'r amrytaf ohonom fod gwahaniaeth dirfawr, nid yn gymaint yh sylwedd y gwahanol emynau, eithr yn eu hawyrgylch, ac yn y modd y ceisia'r emynydd ei fynegi ei hun. Ac wrth geisio dyfod o hyd i ragoriaeth emynau Ieuan Glan Geirionydd, fe sylwir ar rywbeth fel hyn: Yn gyntaf oll, y mae'r emynau'n urddasol; ac yna, ceir ynddynt sentiment ac nid sentimehtalwch. Wirth gwrs y mae gan bob beirniad ei ganonau beirniadaeth ei hun, a cheir