Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

:YFOETH Y TESTAMENT NEWYDD. i. The New Testament in the Light of Modern Research The Haskell Lectures, 1929. By Dr. Adolf Deissmann, Berlin. London Hodder and Stoughton. 1930. 1­193 pp. 6/ 2. The Influence of Christ in the Ancient World. By T. R. Glover. Cambridge University Press, 1929. 1­122 pp. 5/ 3. Y Testament Newydd: Ei Hanes a'i Gynnwys. Gan y Prifathro J. Morgan Jones, M.A. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1930. 1­186 pp. 2/6. 4. Love in the New Testament. By James Moffatt, D.D. London: Hodder and Stoughton, 1930. 1­333 pp. 10/6. 5. The Gospel and its Tributaries. The Kerr Lectures. By E. F. Scott, D.D., Edinburgh: T. & T. Clarke, 1928. 1­291 pp. 10/- 6. The Primitive Church: The Hewett Lectures, 1928. By 13. H. Streeter, D.D., F.B.A. London: Macmillan, 1929. 1­312 pp. 8/6 7. The Problem of the Cross: A Study of New Testament Teaching. By W. E. Wilson, B.D., Selly Oak, Birmingham. London James Clarke, 1930. 1-372 pp. 10/6. YN ei ragair i'w lyfr ar yr Apostol Paul (The Apostle Paul and the Modern World, 1923) dywaid yr Athro F. G. Peabody fod yn llyfrgell Prifysgol Harvard yn unig dros ddwy fil o gyfrolau yn ymdrin â Ibywyd a llythyrau Paul: hynny yw, mwy nag un llyfr ar ;gyfer pob iblwyddyn er dyddiau'r Apostol, heb sôn am yr esboniadau dirif a'r llyfrau hanes a rydd sylw mawr i'w ddysgeidiaeth. Natur- iol, gan hynny, fuasai tybio mai un o'r pethau mwyaf di- alw-amdano oedd chwanegu cyfrol arall at y lluoedd hyn. Ac yna noda'r Athro ddau reswm dros gredu bod lIe i'w lyfr yntau! Os mynnodd Paul filoedd o lyfrau i'w ddehongli a'i esibonio, nid rhyfedd bod y Testament Newydd i gyd yn hawlio ei fyrddiynau, ac erbyn hyn ni ddichon neb ddar- llen mwy ha chyfran, a honno'n un fechan yn aml, o'r hyn a ddaw o'r wasg mewn un flwyddyn yn unig ar y gyfrol a eilw'r Dr. Deissmann yn llyfr y ddynoliaeth." Sicr