Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU. WELSH FOLKLORE AND FOLK CUSTOM. By T. Gwynn Jones, M.A. Methuen and Co., Ltd., London. 7/6 net. I'r neb a 'garo'i genedl nid oes dim mwy diddorol na'i llên gwerin, ac nid oes dim ychwaith sydd mor anhepgor er mwyn am- gyffred yn llawn ddatblygiad ei meddwl ac olrhain yn deg ei hanes. I ddeall yn iawn dyfiant ei bywyd a ffynonellau ei llenyddiaeth rhaid cael gwybodaeth am ei hen gredoau a'i hen arferion, ac i'r gwir han- esydd a'r hynafiaethwr nid oes dim ofer "-goeledd. Anffawd i efrydydd llên gwerin Gymreig ydyw ddarfod i'r mud- iad crefyddol a fu'n bennaf moddion cadwedigaeth yr iaith beri tranc ar gyfoeth ehelaeth y chwedlau a adroddid gynt yn neuadd y gwr mawr a bwthyn y gwerinwr, ac wrth ddarllen y llyfr rhagorol hwn gan yr Athro Gwynn Jones synnir ni gan faint y gweddill a oroes- odd biwritaniaeth eithafol y Diwygiad Methodistaidd. Nid bychan y ddyled sydd arnom i wyr fel Syr John Rhys, Myrddin Fardd ac eraill a groniclodd lawer o'r gweddill hwn cyn ei fyned ar ddifancoll, ac wedi ysgrifennu ohono'r gyfrol gyfoethog hon sydd yn ffrwyth nid yn unig ddarllen llawer iawn ond hefyd sylw maith a manwl, ychwanegir ei hawdur at y rhai y dylai'r holl genedl Gymreig dalu diolch iddynt am waredu'r hyn a arhosodd o drysor llên ei gwerin rha,g diflannu a cholli. Y mae'n eglur fod ambell ardal yn herwydd ei safle, ei natur a'i hanes, wedi llochesu hen chwedlau a thraddodiadau yn amgen na'i gilydd, ac y mae cyn wired hefyd fod rhai personau yn gogwydd mwy na'i .gilydd drwy reddf ac anian atynt. Y mae'r Athro Gwynn Jones yn un o'r rhain-gwyddem hyn cyn darllen y llyfr hwn-a gellir tybio'i fagu ar aelwyd addas i'r gynneddf hynafiaethol ac mewn ardal y ffynnai'r ystraeon gwerin yn ,gryf ynddi, a'r unrhyw reddf ag a barodd eu caru a'u trysori a'i cymhellodd i loffa gan ei debyg ac oddi ar lafar ardaloedd eraill, a rhoddi inni'r casgliad hwn y synnwn at faint ac amrywiaeth ei ddeunydd. Y mae pob pennod yn orlawn o enghredfftiau, megis y ddegfed o ddywediadau a diarhebion am y tymhorau a'r misoedd, ac o arwyddion tywydd. Nid esbonnir yr arwyddion yn yr un modd ymhob ardal, ac yn ardal tfy nghartref i nid ystyrir Dysglau Marsli (td. 169) yn arwyddion o hindda ond o dywydd glawog, a dibynna dehongliad y cylch am y lloer (td. 170) ar ei bellter oddi wrthi-" cylch yn agos, glaw ymhell; cylch ymhell,, glaw yn agos.. Cynnwys llên gwerin elfennau amrywiol- hen syniadau, hen gredoau a hen draddodiadau, eu hanfod yng nghrefydd yr hynafiaid a'u datblygiad yn ystraeon am wroniaid, am gewri, am ogofau a chromlechau, am lynnau a ffynhonnau a oedd gynt yn gysegredig; yn gred mewn ysbrydion a thylwyth teg, mewn hud a lledrith a dewiniaeth, mewn misoedd a dyddiau da a drwg; ac yn eglur a hwylus yn y llyfr hwn ymdrinir â'r gwahanol elfennau hyn mewn gwahanol benodau. Dangosir hefyd i ba raddau y cynhwysir yr amryw agweddau hyn yn yr hen lenyddiaeth Gymraeg, yn rhydd- iaith a barddoniaeth; ac os ychwanegir arferion gwerin y mae han- fod llawer ohonynt yn yr hen grefydd hefyd, dyna i'r darllenwr am- can am natur cynnwys y gyfrol gyflawn a rhagorol hon.