Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddileu naw ar ôl nefenhir, prawf ei fod yn gyfarwydd ag enw llawn y gaer. Atgoffeir amdani heffyd yn y llinell amrygyr newenhyr naw nant (Myvyrian 212.20=Hendregadredd io6b), a gopïwyd yn wallus am rygyr ny wneyr na wnant ym Marddoniaeth Llyfr Coch Hergest 166b8. Ni welaf unrhyw reswm dros newid Nefenhyr i Fyfenydd. Ar dud. 98 dywedir bod bedd Seithennin Synnwyr Wan between the stronghold of Kenedir and the landing place of mighty Mor and Kynran." Dyma eiriau Llyfr .Du Caerfyrddin (107.4) Rug kaer kenedir a glan. mor maurhidic a kinran, a cheir hwy hefyd, ond ychydig yn wahanol, yn 63.11 1­2. I mi nid oes ond dwy ffordd i'w dehongli: (a) rhwng Caer Cenedyr (mae Cenedr yn bosibl yn ôl 63.12) a glan môr, mawrhydig a gynran, neu (b) rhwng Caer Cenedyr a glan, mor fawrhydig a gynran. Ni allaf ddygymod â deall mor a kynran fel priod-enwau personol, ac eng- hraifft o'r gystrawen gyffredin, e.e., mawr a beth," truan a wr (yn ddiweddarach o yn lle a "), ydyw mawrhidic a kinran "ardderchog a bennaeth = dywysog aruchel." Ar dud. 121 enw gwaew Arthur ydyw Rhongymynyat, ond Rpngomyant ydyw ffurf yr enw yn y Miabinogion 105.29 = ron gomyant Llyfr Gwyn 230 a 33, a gallesid ychwanegu at ei arfau, ei darian Wyneb Gwrthucher. Cymharol ddibwys ydyw'r gwallau hyn (os gwallau hefyd) mewn gwaith sydd yn feichiog gan enghreifftiau o fedr ac athrylith ei awdur, ei weledigaeth eglur, a'i wybodaeth eang am ei destun, ac onid yw'r gyfrol eisoes gan neb o ddarllenwyr y TRAETHODYDD, cyng- horaf ef i'w chael ar unwaith, gan y bydd hi'n anhepgor mwyach i'r sawl a fynno wybod am Lên Gwerin Cymru. Dulyn. D. LLOYD-JONES. THE PROBLEM OF THE CROSS. A Study of New Testament Teaching, by William E. Wilson, B.D., Selly Oak Colleges, Bir- mingham. pp. 372. James Clarke and Co. 10/6 net. Rhoddes awdur y gyfrol hon, athro yn Woodbrooke,' un o goleg- au Cymdeithas y Cyfeillion, o 15 i 20 mlynedd o lafur cyson i astud- io'r Athrawiaeth am y Groes," neu Athrawiaeth yr Iawn fel y mae'n fwy hysbys i ni Gymry. Maes arbennig ei astudiaeth ynglyn â hi ydyw y Test. Newydd a chefndir addysg hwnnw yn yr H. D. Un peth a barodd iddo i wneud ymchwiliad arbennig iddi ydoedd ymdeimlad o anfodlonrwydd ar y ffurf a fu ar gerdded ar yr athrawiaeth yn yr Eglwys er y Canol-oesoedd, anfodlonrwydd y gwyr amryw heddiw, y mae'n ddiau, amdano. Cyhoeddodd ddau lyfr bach arall, a esyd allan i bob diben ymarferol yr un safbwynt â'r gyfrol hon y sydd ger ein bron, un yn 1913 Christ and War, a'r llall yn 1914 Atonement and Non-resistance. Gellir casglu oddi wrth deitlau'r llyfrau hyn, a hefyd oddi wrth nodweddion y gymdeithas y perthyn yr awdur dddi, beth yn ei brif linellau ydyw ei addysg ef am y Groes.