Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

moesol fel pechod a'i gosb, onid yw'n iawn, ie, yn rhaid dweud mai Duw a'u dug o amgylch? O leiaf y mae a wnelo Duw rywbeth â'u digwydd. Y mae'r awdur yn ffoi at ddeuoliaeth am noddfa, a noddfa dwyllodrus ydyw honno yn ôl dysgeidiaeth proffwydi'r H.D. Duw sy'n cadw; yr un Duw sy'n cosbi am anufudd-dod hefyd, ac y mae ei gosb yn 61 maint y rhagorfraint a wrthodwyd. Credaf hefyd y dylsai ofyn mwy ai tybed wedi'r cwbl nad oedd gan yr Eglwys ryw wirioneddau mawr am Dduw ac am ganlyniadau ofnadwy pechod, a'r rheini'n effeithio ar hanfod Duw i ryw fesur, y tucetfn i'r athrawiaethau y credent hwy mor gryf ynddynt? Atolwg beth oedd ganddynt yn eu calonnau-peth hwyrach y dylid ei fynegi'n wahanol i'r fel y gwnaethant hwy er mwyn gwneud chwarae teg â'r datguddiad yn y T.N. ac â'r profiad Cristnogol? Yr oedd marw'r Iesu ar y Groes yn real. Os felly, oni wnaeth wahaniaeth hanfodol i Dduw ei hun? Pa wahaniaeth a wnaeth? Rhaid hefyd bod rhyw fath ar fodloni yn angenrheidiol i Fod moesol. Y mae i hwnnw ei fwriadau. Nid yw Ef yr un wedi iddo sylweddoli'r rheini a phan yw'n methu neu ynteu'n peidio â'u sylweddoli. Pa Ie sydd yna i fodloni Duw, ac i farw yn ein lle? Carasem petai'r awdur wedi dangos mwy inni yn y cyfeiriad hwn. Ond wedyn ei amcan ydoedd tynnu'r gau i lawr, a'i symud o'r ffordd. Y mae wedi hwyluso llawer ar y ffordd i oruwch-adeiladu o'r newydd, a hynny ar seiliau cadarn yr Ysgrythurau. Abertawe. D. MORRIS JONES. THE DIOCESE OF BANGOR DURING THREE CENTURIES. A. Ivor Pryce, M.A. Cardiff. 1929. 6/6 net. Cyfrol werthfawr iawn yw hon. Gŵr manwl a .gofalus yw'r awdur, llym a chyfreithiol ei osgo, un pur annhebyg i lithro ar air neu chwarae â ffeithiau. Os tueddir ef am dro i wneud haeriad go gry' neu benagored, siawns fawr nad arferir ymadrodd petrus yn ei gyn- ffon i'w achub rhag gormod rhysedd. Yn wir, byddai'n ddiddorol cyfrif pa sawl ,gwaith y digwydd y gair fossibly o fewn y Rhagair- hollol nodweddiadol o dymer ddiogel ochelgar Mr. Ivor Pryce. Ni all cofrestrydd esgobaeth lai na bod yn Eglwyswr, ac yn Eglwyswr go sownd; serch hynny, nid oes fawr llyfr na phamffled ar hanes Ymneilltuaeth nad yw'r awdur yn gyfarwydd ag ef fel y gwyddys, ef adeiladodd daflen y tai cyrddau a ganiatawyd o dan Ddeddf Goddefiad gan awdurdodau Bangor (Trans. Angl. Antiq. Soc, 1922, 1924), gwaith y dylesid ei wneud gan ryw Ymneilltuwr, ond a gwbl anghofiwyd. Gresyn na fuasai dynion tebyg iddo'n gofrestrwyr Bangor yn y dyddiau a fu. Byddai'r tystysgrifau'n llawnach ac ad- roddiadau llawer visitation heb íyn'd ddifancoll Corff mawr y gwaith yw tudalennau 1­155, lle y cyfleir enwau clerigwyr yr esgobaeth o 1660 i 1899, amser eu hurddiad, a dyddiadau marw neu ymddiswyddo. Felly, os dywedir mewn hen lyfr llaw. ysgrif fod offeiriad Llaniestyn'yn Lleyn yn bur llawdrwm ar y Meth. odistiaid cynnar, wele ei enw ar td. 22 (John Griffith) ac felly gyda Uu mawr o offeiriaid y cyfeirir atynt heb eu henwi ym Methodist- iaeth Cymru. Yn y diwedd ceir tri atodiad llawn gwybodaeth fanwl -y trawsgyweiriadau o 1645 i 1660 amcangyfrif o'r boblogaeth yn 1749; a chrynodeb o'r rhai a ddalient ofalaeth eglwysig yn yr Oesau Canol (gan fwyaf). Cywir odiaeth yw Atodiad A, ar y cyfan. Nid yw'n hawdd adnabod y Clarke a esyd yn ficer Llangurig yn 1649 (td. 162); Uosgodd yntau ei fysedd, fel y gwnaeth Llyfrgellydd Lam-