Skip navigation

Y Traethodydd

 - 

Cyf. LXXXV (XVIII) (374-377) 1930

The Diocese of Bangor during three centuries. Book review.

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
i'w dweud am John Morgan o Lanllechid a Chonwy nag a geir ar td.
xl.; Benjamin Hoadley oedd yr esgob, nid Samuel (xlvii.); dim
gair am y rowiau diddiwedd ymhlith prif awdurdodau'r esgobaeth
yng ngyswllt y ddwy garirif pan oedd Ymneilltuaeth yn lledu cortyn-
nau ei phreswylfeydd ymhob cyfeiriad. Fe gyfeddyf Mr. Pryce fwy
nag unwaith mai Saeson rhonc, a edrychai ar orsedd Bangor íel
troedfainc i safle well a mwy proffidiol, oedd ymron bob un o'r esgob-
ion yn y ddeunawfed ganrif. Nid drwg fyddai iddo gymryd yr
Esgob Moore (1775 — 1783) yn enghraifft, gwr a godwyd o Fangor yn
syth i Gaergaint. Cyn dod i Fangor ceir ei enw ef tfel un o'r tystion
i weithred gyfreithiol a drosglwyddai diroedd yn India'r Gorllewin
o un llaw i'r Hall, tiroedd y cedwid arnynt gaethion lawer. Prin y
gellir dweud bod arwyddo'r weithred hon yn bechod ynddo; prin y
gellir profi ei fod yn pleidio'r gaethfasnach yn uniongyrchol; ond
ni ellir dianc rhag cymharu'r ysbryd secular hwn, y gyfathrach â
chyfreithwyr a thiroedd, â nerthoedd diwrthdro muddadau Whitfield
a Wesley. Ac nid oedd Moore, wedi'r cwbl, agos cyn waethed â'r
Deon Shipley o Lanelwy, yr hwn yn bendifaddau a dderbyniai gan-
noedd o bunnau bob blwyddyn oddi wrth ystadiau siwgr yn y Gor-
Uewin, ystadiau a weithid bob un gan gaethweision.
0 daflu ail olwg dros y gwaith, fe welir y cyffyrddir â rhai pwynt-
iau o egwyddor ynddo y gellid dadlau yn eu cylch am hanner oes,
fod rhai manion anghywir heb eu cywiro, fod rhai pethau heb eu
dweud y dylid eu dweud. Onid yw hyn yn wir am bob llyfr da?
Llyfr ysgolheigaidd ydyw hwn gan ysgolor o'r iawn ryw, meistr ar
ei waith, cartrefol yn ei fater. Gwyn fyd na fai mwy o lyfrau yn
debyg dddo.
Bangor.
THOMAS RICHARDS.
Y PARCH. JOHN PULESTON JONES, M.A., D.D. Gan R. W.
Jones, Caergybi. Td. 312. Pris 5/ Caernarfon Argraffdy'r
Methodistiaid Calfinaidd.
Cydnebydd pawb mai gwr anodd iawn ydyw Puleston i wneud
«cofianit teilwng ohono. Yr oedd ei allu mor amlochrog, ei ddychymyg
mor fyw, a'i bersonoliaeth mor gyfoethog o swynion cytfriniol fel y
mae bron yn amhosibl cyfleu ei nodweddion mewn geiriau, ac ar yr
un pryd wneud chwarae teg â'r gwr annwyl hwn. Ymhellach, fe
ddaeth i gyffyrddiad agos iawn a'r gwyr ieuanc a drawsnewidient
fywyd Cymru yn y dadeni diweddar, a bu ei ddylanwad yn fawr
ac arosol arnynt, fel mai un ydyw ei hanes ef a hanes addysg a
chrefydd Cymru yn y tymor pwysig hwn. Mae ffrwyth ei feddwl
aeddfed ar bynciau mwyaf dyrys bywyd, o'r pulpud a'r Uwyfan,
mewn pregeth ac erthygl a chyfrol, yn haeddu sylw ditfrifol yr oes
hon: ac felly, er gwneud ein gorau, y mae'n annodd bodloni ar gof-
iant byr.
Mae cynllun y cofiant hwn yn syml a naturiol iawn: dilyna gwrs
bywyd Puleston o'i febyd i'w fedd yn glir a swynol dros ben. Ar ôl
dechrau ei ddarllen, rhaid fydd parhau ym'laen, ac nid oes ond edi-
feirwch pan ddeuir i'r pen. Trinir gan law fedrus wahanol adrannau
ei fywyd-mnser ysgol a choleg a gweinidogaeth­a daw agweddau
priod pob cyfnod allan yn glir yn y darlun. Mae'r daith yn eglur a
hawdd ei deall, iaith y gwerinwr coeth yw, Cymraeg ystwyth a
phrydferth, a chiliodd y darlunydd yn llwyr o'r goJwg, canys Pules-
ton yn unig a geir yn y cofiant drwyddo draw
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.