Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

bedwar ban y prif holion, sef..arucheledd yr athrawiaeth, arbenig- rwydd yr adroddiad, awdurdod yr awduraeth, ac amrywiaeth yr ar- nodiad (annotation). Anfynych yr eglurodd Cymro gynifer pwnc syl- faenol o ddiwinyddiaeth ac arweiniad a deongl ysgrythurol mor syml a bywiog, mor annibynnol a dirodres; na chyd â chymaint cydna- byddiaeth â meysydd perthnasol llenyddiaeth byd a betws ym mhob oes. Cennad o ladmerydd amryddysg yw bugail Trefnyddion Llan- drindod. Ni siomodd ei lyfr anorffennol y proffwydoliaethau a gerdd- asent o'r blaen amdano. Eithr er daed y lladmerydd, mwy yw'r gennad a'r cenhadwr. Ni chrybwyllaf ond un o'r sylfaenolion y mae ef yn gwbl iach ynddynt. Nid difater ganddo berthynas Credo Sant Athanasius â ddwinyddol gysylltiadau enw'r ffynhonnau iachusol y porthai ef ei braidd ar eu glennydd. Dichon mai dylan- wad ei breswyl a gyfrif am rym ac ergyd rhai o'i sylwadau am ddyfroedd yr Efengyl, yn Cana a Sychar, a Bethesda, ac am fed- yddio â dwfr ac â'r Ysbryd Glân. Rhaid ymatal rhag dadansoddi ei gyfriniaeth. Da y gwnaeth yn trafod pynciau cymhleth awduraeth yr Efengyl mor ddiotfn a diragfarn. Ceddwadol ydyw, ond nid obscurantist fel dyn a gaeo'i lygaid rhag eu taro â goleuni anghynefin. Croesawa ddychweliad cynifer o'r beirniaid diweddar at y gred draddodiadol am amryw ddilysrwydd Efengyl Ioan. Cynrychiolir yr adwedd hon yn arbennig weithiau gan J. H. Bernard, yr esboniwr eglwysig y glyn y Methodus wrtho ragor neb arall yn ei agoriad, er nad yn was- tadol yn y nodion eglurhaol. Dychmygaf glywed tinc gorfoledd fy hen ddisgybl a fu'n camu gynt o Drefecca i afon Cam, yn ei osod- iad hyderus am ibarhad awdurdod Lightfoot, Westcott a Hort:- Nid oedd unrhyw ffaith gerbron y sawl a ymdriniodd ag awdur- aeth yr Efengyl yr w.ythnos ddiweddaf, nad oedd yn wybyddus i dri gẃr Caergrawnt (9). GweJl gan ein cyfaill ddyfynnu broddegau 'gewynnog Moffatt pan gyfieitho na'i ddamcaniaethau anghatholig pan fo'n uchfeirniadu. Dywedwyd digon eisoes i dystiolaethu bod yr Esboniad drwyddo'i gyd yn ddiddorol ac yn ddarllenadwy, yn ddealladwy ac yn ddefosiyn- ol. Dengys hên gynefindra â phob rhan o'r maes eang a drinir. Nid osgoir yr un anhawster, bydded gymal aneglur o ymadrodd, neu ddarlleniad diwygiedig ond anghynefin. Hynod ddilwgr y pery acen Dregaron ym Maes Hyfeidd anghyfiaeth. Oherwydd paham y mae'n rhyfedd gennyf hefyd weled troi henuriad tybiedig Papias yn henadur." Aldramon y galwai Goronwy Owain y rhagddywededig fydol- lywiawdr. Ond cyfleus gorffen yma. Canys oddiar "yr henuriad Ioan," pwy bynnag ydoedd, y mae pwysau trymaf y bromlem Iohannaidd" yn crogi. Dysg ymdriniaeth bwyllog a thryilwyr olynydd Cynddylan 'inni o newydd mai mawr yw ei dirgelwch, a bod uniongrededd yng- hylch tystiolaeth Ioan fab Sebedeus yn wirionedd i'w gredu, ac nid i'w amgyffred. Ni dderbyn Stephen George mo chwedl ffuantus Sior Bechadur (Georgios Hamartolos) am gynnar ferthyrdod yr Apostol, nac ochri gyda Phylip o Side. Try ei argyhoeddiad yn ganu. Corfanna linell o brydyddiaeth sydd gyfystyr â dihareb bardd Rhufeinig am ddi- 'ymodrwydd naturiaeth Naturam exfellas furca tamen usgue recurret. Canys fel hyn y cân Steffan am hirhoedledd Ioan (tud. n) Gyrrir ef allan, eithr dychwel o hyd." A berystwyth. J. YOUNG EVANS.