Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ETERNAL TRUTH IN THE ETERNAL CITY Studies in the Epistle to the Romans. By the Rev. J. Cynddylan Jones, D.D. Foyle's Welsh Press, 121 Gharing Cross Road, London. 5/ Hen arfer yw galw Rhufain Y Ddinas Dragwyddol;" eithr ni ellir rhoi'r un ystyr i'r gair "tragwydidol" ynglyn â dinas, o ran ei hadeiladau na'i phobl, ag a roddir iddo ynglyn â gwirionedd. Sylweddol a dwyfol yw gwirionedd tragwyddol yr Efengyl, heb amlygrwydd i'r syniad o barhad. Yn yr Epistol at y Rhufeiniaid y ceir yr Efengyl yn ôl Paul yn ei ffurf nodweddiadol, gyflawn a chryno. A theilwng yw'r llyfr o'r Ue blaenaf ar restr Epistolau Paul yn y Testament Newydd. Traetha'r apostol ei brofiad o'r Efengyl heb lawer o liw amgylchiadau yn yr Epistol hwn, a hynny wrth eglwys Gristnogol fechan ym mhrifddinas yr Ymerodraeth fawr. Dyma siarter ei grefydd ef, ac elfennau arbennig ei Efengyl-o leiaf yng nghyfnod cynharaf ei weinidogaeth. A naturiol iawn yw bod y fath faes wedi denu meddwl oawraidd y Dr. Cynddylan Jones. Y syndod yw i'r gyírol hon oedi cyhyd ar y ffordd, ac hefyd iddi ym- ddangos mewn diwyg Saesneg. Arferodd yr awdur gyfansoddi cyf- resi a'u cyhoeddi'n gyfrolau. Gwnaeth hynny â'r Efengylau, yr Actau, ac Epistol cyntaf Pedr-yn y ganrif o'r blaen Ac nid an- hebyg iawn yn eu hansawdd yw'r cyfrolau poblogaidd Cysondeb y Ffydd. Ar gyfri'r weinidogaeth deithiol yn ein plith nid yw eg- lwysi'r Methodistiaid Cymraeg wedi eu ffafrio â llawer cyfres o bre- gethau olynol. Ond dyma un ffordd amlwg o bregethu'r gair." Fel y gwnaeth y Dr. John Puleston Jones ag Epistol Iago, a David Charles Davies â'r Epistol at yr Eiphesiaid a Uyfrau eraill, felly y gellir dilyn meddwl sgrifennydd Beiblaidd mewn modd athrawaidd ac adeiladol i gynulleidfa. Mae Dr. Cynddylan Jones yn tfeistr ar y gelfyddyd hon, ac wedi rhoi rhoddion .gwerthfawr i ddynion yn y dull yma. A theimlir yn ddiolchgar iddo am y gyfrol newydd o'r nodwedd hon, ac yn ddiolchgar i Dduw am estyn hyd ei oes i'w threfnu a'i chyhoeddi. Mae ei brif nodweddion fel pregethwr yn hysbys led-led y wlad, a deuant i'r golwg yma drachefn. Meddwl a ddihewyd diwinyddol yw'r eiddo ef, a honno'n ddiwinyddiaeth gyfundrefnol yn fwy nag yn un Feibladdd. Ond y mae'n gwbl gartrefol yn rhediad ac yng ngeiriau'r Ysgrythur Lan. Nid yw ein hoes ni mewn cariad â dadleuon diwinyddol, a thybiem fod adlais y rhai a fu yn darfod gyda phellter amser — fel discord mewn cerddoriaeth gyda phellter lie. Ar .gyd-ddeaU y mae nod y genhedlaeth bresennol o Gristnogion. Nid trwy gyndyn-ddadlau nac ymrafaelio y deuir o hyd i'r gwir. Gyda'r holl sadnt yn unig y .gellir gwylbod yr Efengyl, trwy gyd- ymdeimlad a chariad brawdol. Nid yw'r holl wir gan un sect, ac ni bydd ychwaith. Ond Uwydda'r awdur hwn i wneud popeth yn dra diddorol, ac i osod cyfaredd ar yr hen-sydd hefyd yn newydd ac yn dragwyddol yn ei hanfod. Sgrifenna a llefara yn debyg iawn i'w gilydd, ac yn union fel efo'i hun. Mae ei arddull yn loyw ac yn eniügar, ei feddyliau bonheddig wedi eu dilladu mewn gwisg gain, a'i symudiadau yn glir a huawdl. Rhagymadrodda'n fyr a chryno, heb fod yn 'gwta. Ffeindia ffordd union a rhwydd at galon ei destun. Er trafod ohono wirioneddau canolog yr Efengyl, ni chychwyn ei ymdriniaeth .bob tro yn Eden, ac ni esyd ei gefn ar bared y byd wrth baratoi i redeg ei yrfa Diwinyddiaeth gyda phwrpas a geir ganddo yma a'r traeth- awd yn bregeth, try'r gwirionedd yn genadwri, a saif y ddiwin- yddiaeth yn sail gadarn i apêl yr Etfengyl. Defnyddia gymariaethau gwych, mewn ffordd feistrolgar chwi'liiodd amdanynt o feysydd am-