Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

rywiol, a gwna hwy'n foddion i ddibenion uchel ac achubol. Hoel- ia'r rhain ei faterion yng nghof ei wrandawyr, ac heb gofio'r weini- dogaeth ni cheir y budd uchaf drwyddi. Maent hefyd yn ffenestri i ganfod drwyddynt fesur o ogoniant gwirionedd a Duw. Termau cymharol ddieithr bellach yw cyfiawnhad, y cwymp, deddf, a dam- nedigaeth, a'r cyffelyb; ond clywir hwynt yn y pregethau hyn gyda blas ac argyhoeddiad. Pery'r rhan fwyaf i goledd y syniadau sydd o dan y termau hyn, ond gan eu dysgu mewn ffordd wahanol — tfel yn wir y gwnaeth Paul ei hun i fesur cyn diwedd ei oes. Ond ni ddaw nemor les trwy godi'r hen a'r newydd yn erbyn ei gilydd, mewn gwybodaeth na phregethu. Ac un o wersi cyntatf Crist- nogaeth yw goddef ein gilydd mewn cariad. Elfen amlwg a gwerthfawr yn y pregethau hyn yw eu rhaniadau. Y mae'r rheini yn rhannu mewn gwirionedd. Diau nad o bridd- feini o faintioli a ffurf rheolaidd yr adeiladwyd teml gwirionedd yr Efengyl; ond y mae hi'n deml, wedi ei chymwys gyd-gysylltu. Ac y mae rhannu yn gymorth i'r deall ac i'r cof, i'r pregethwr a'r gwrandawr; a thrwy borth y deall y mae'r dramwyfa gyfreithlon i sancteiddiolaf calon a bywyd dyn. Saerniwr ceLfyddgar ar bre- geth yw'r Dr. Cynddylan Jones, o feddwl homiletaidd, yn casglu cedau o bob rhyw faes, ac ýn eu hoelio yn barchus ac annwyl ar drostan y groes. Ac oni chaiff Cymru eto, ar ei huchel-wyliau, weled ei wedd a chlywed ei lais, gall deimlo curiad ei galon a phrofi argy- hoeddiad ei gydwybod drwy'r pregethau cyhoeddedig hyn. Y Bala. T. R. JONES (Clwydydd). CRUDEN'S COMPLETE CONCORDANCE TO THE OLD AND NEW TESTAMENTS, with Notes and Biblical Proper Names under one Alfhabetical Arrangement. Pp. 783. Religious Tract Society. 7/6 net. Cyhoeddodd Alexander Cruden ei Fynegair o'r Beibl Saesneg gyn- taf yn y flwyddyn 1736. Er y fl. 1839 cyhoeddir y gwaith gan Gym- deithas y Traethodau Crefyddol, a hynny mewn argraffiadau Iu ohono. Dywedir mai'r argraffiad presennol yw'r llawnaf a'r cywiraf o'r cwbl, ac y cynnwys dros 225,000 o gyfeiriadau Ysgrythurol. Nodwedd araU werthfawr ynddo ydyw y cymerir sylw o'r cyfnewidiadau mwyaf a wnaethpwyd yn y Cyfieithiad Diwygiedig Saesneg, ac o'r argraffiad Amerdcanaidd o hwnnw yn ogystal â'r un Prydeinig. Y peth lleiaf a aill dyn ei ddweud ydyw fod cyfrol fel hon yn werthfawr, ac iddi olygu Uatfur enfawr i'r ,gŵr a baratodd yr argraff- iadau cyntaf, a hefyd i'r tri, un mab a dwy chwaer fe ellid ei gasglu, a fu'n trefnu'r argraffiad diwethaf hwn o'r gwaith. Ni wyddom beth a wnad rhai ohonom heb goncordans; a cholled fawr i ni Gymry ydyw gorfod bodloni ar un mor anghyflawn ag un Peter Williams, er bod He cryf i gredu y cawn Fynegair cyflawn o'r Testament Newydd cyn hir. Y mae Mynegair da o werth anhraethol. Llyfr i helpu pobl á 'idyfod o hyd i adnod na wyddant p'le i'w chael yw'r concordancs i ilawer. Ond y mae'n llawer mwy ei werth na hynny i'r efrydydd ananwl y mae cystal iddo ef ag ydyw tabl y tren i drafaeliwr mewn gwlad ddieithr. A diddorol iawn a fyddai darlith i efrydwyr y Beibl «ar sut á ddefnyddio Mynegair gan ŵr a wyr ei werth. Yn wir, un o'r ^fyrdd 'gorau i ddyn wybod ei Feibl ydyw iddo ddysgu'n gyntaf oU ymarfer gyda'r Mynegair.