Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ni ddisgwylir i neb ddarllen cyfrol fel hon drwyddi cyn ei hadol- ygu. Ond gellir dweud ei bod yn hylaw o ran maint, rhyw naw modfedd wrth chwech. Y mae ynddi nodiadau cynhwysfawr ar eir- iau, yn arbennig y rheini y mae rhagor nag un gair Hebraeg neu Roeg amdanynt. Ni chafwyd hamdden chwaith i chwilio am wallau ond syrthiodd ein Uygaid ar un ar td. 774, lle dylid darllen dan yr enw Zuar, see Nethaneel am see Nathanael." Ond y mae'n amhosibl golygu gwaith fel hwn heb fod ynddo frychau ar waethaf pob gofal. "CRUCIFIED, DEAD, AND BURIED." Devotional Studies of our Lord's Passion. By G. R. H. Shafto. Pp. 61. Student Christian Movement. if- net. Llyfryn o fyfyrdodau ar hanes croeshoelio a chladdu'r Arglwydd Iesu ydyw hwn. Cesglir ar ei ddechrau yr hanes ei hun, ac yna daw deg pennod o sylwadau ar amrywiol bynciau, megis Heddiw ym Mharadwys," Y chweched awr," Gorffennwyd." Fel y dy- wedir mewn nodyn ar y cychwyn, ni fwriedir i neb ddarllen y pen- odau drwyddynt ar un eisteddiad; un adran ar y tro ydyw cyngor yr awdur. Y mae'r sylwadau'n rhai fydd yn rhwym o helpu i fagu ysbryd defosiwn. Ni synnem petai ambell i frawd yn gallu seilio arnynt air yn ei bryd mewn gwasanaeth Cymun; ac y mae'n siwr y caiff pawb a'i darlleno i'w baratoi ei hun ar gyfer hynny fendith. Da fyddai cael ychydig o'r math hwn ar lenyddiaeth yn Gymraeg yr ydys yn resynus o dlawd yn y cyfeiriad yma. Ac efallai y cwyd gweled y llyfryn hwn awydd ar ryw law fedrus i gymryd y gorchwyl hwnnw mewn llaw. Petai eisiau beirniadu hwn, gofynnai dyn pam y cyfyngir y dyf- yniadau i lai na dwsin o awduron, a pham hefyd yr eir i drafferth i roddi gradd un o'r rheini bob amser ar ôl ei enw mewn llyfr o fath hwn, ac y llwyr anwybyddir graddau'r lleill. Tybed fod yn Lloegr hefyd bobl y rhaid bod yn ofailus am eu cynffonnau? THE SIGNIFICANCE OF JESUS. By W. R. Maltby, D.D. Student Christian Movement. 111 pp. ln paper cover, 2/- net; in cloth, 3/- net. Pedair darlith yw cynnwys y llyfr hwn. Traddodwyd hwy yng nghapel Prifysgol Victoria, Toronto, Canada, ym mis Medi 1928, a thynasant dyrfa fawr i'w gwrando. Un o weinidogion amlycaf y Methodistiaid Wesleaidd yn Lloegr yw'r darlithydd a'r awdur. Amcan y darlithiau ydyw arwain dynion heibio credoau'r Eglwys at Iesu Grist, Gwaredwr dynion. A cheisir dangos inni ogoniant y gwir ddyn a welir yn Iesu o Nasareth. Y dyn Crist Iesu yw'r testun o flaen y darlithydd ymhob un o'r darlithiau. Yr wyf yn glynu wrth ddyndod Crist; nid oes ofn yno, eithr cyfeillgarwch a llawenydd, a dysgaf felly adnabod y Tad drwyddo Ef yw un dyf- yniad o Luther a gymeradwyir yn y bennod gyntaf. Yna rhoddir pennod i drin ffydd Iesu Grist a'i gwerth i ni, un arall i ddangos mor naturiol ac agos atom yw darlun yr Iesu o Dduw, a'r bedwaredd i alw sylw at y gwerth a ddyry'r Iesu ar fywyd yma ar y ddaear. Cyfrol ac ynddi genadwri yw hon. Bydd ei blas i lawer dyn ifanc fel dwfr nant y mynydd ar ddydd poeth o haf. A da fyddai i lawer ohonom ei ddarllen, ei chredu a'i phregethu. D. F. R.