Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. INDIA A'I PHROBLEMAU. I. CREDWN ei fod yn wir fod Cymru, oherwydd amrywiol resymau, yn cymryd diddordeb mawr yn yr India. Nid amhriodol felly yw i'r TRAETHODYDD roddi ychydig ofod i ystyriaeth o Adroddiad pwysig Comisiwn Syr John Simon ar y wlad honno a'i phroblemau. Fe1 Comisiwn Syr John Simon yr adwaenir y Gomisiwn yn gynredin, eithr The Indian Statutory Commission yw ei enw swydd- ogol. Perthyn ystyr arbennig i'r enw hwn, canys y mae'n egluro natur a phwrpas y Comisiwn. Ni allwn olrhain yn awr hanes cysylltiad Prydain Fawr â'.r India, ond er mwyn deall y sefyllfa y penodwyd Syr John Simon a'i gyd-swyddogion i'w hystyried, rhaid dweud gair am yr hyn ddigwyddodd yn 1917 a 1919. Yn 1917 cyhoeddodd Mr. Montagu, ar ran Llywodraeth Mr. Lloyd George, farn y Llywodraeth­a honno'n cynrych- ioli'r tair plaid wleidyddol-am y llinellau ar y rhai y dylid ac y disgwylid gweinyddu yr Ihdia yn y dyfodol. Yn .1919 corfforwyd y farn honno mewn Deddf Seneddol. Cynrydhiolai gam pwysig iawn yn natblygiad ein cys- ylltiadau â'r India, a hefyd yng nghysylltiadau trigolion India â'u Llywodraeth. Mynegodd y polisi o gysylltu'r Indiaid â phoib dosbarth o Weinyddiaeth, ac o ddatblygu'n raddol sefydliadau hunaii-lywodraethol, gan gadw mewn giolwg y nod yn y pendraw o sicrhau Llywodraeth Sen- eddol i India Brydeinig," fe'l rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig. Eglurwyd, drachefn, mai'n raddol yn unig y gellid disgwyl cyrraedd y nod hwn, ac y byddai Senedd Prydain yn penderfynu amser a natur pob cam ymlaen ar ô1 cael profiad o'r defnydd wneid o'r cyfleusterau a'r cyf- rifoldeb newydd. Darparwyd, hefyd, i benodi Comisiwn ar ôl deng mlynedd gyda'r amcan o ymofyn y'nghylch gweithrediad y gyfundrefn newydd, y cynnydd mewn addysg, a datblygiad y sefydliadau cyhoeddus yn y cyf-