Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MWSTAFFA KEMAL: LLUNIWR TWRCI NEWYDD. (Parhad) v. Fel y crybwyllwyd eisoes, ar Awst 10, 1920, y gwnaeth y Cynghreiriaid eu cyntundeb cyntaf â Thwrci, a hynny yn Sèvres, yn ymyl Paris. Nid oedd a wnelai Mwstaffa Kemal â'r cytundeb hwnnw. Ei waith ef ar y pryd yd- oedd ceisio gwneuthur ei wlad ei hun yn wlad rydd. Cyn sychu o'r inc ar Gytundeb Sèvres, galwodd ef ynghyd 'gynghres genedlaethol yn Sivas, ym mherfeddion pell Anatolia. Yno penderfynwyd trefnu etholiad ar gyfair y Gymanfa Genedlaethol gyntaf, a gynhelid yn Angora Ionawr 21, 1921. Cyfarfu honno mewn ystafell foel a oleuid â dwy lamp olew, ac ar feinciau ysgol yr eisteddai'r 350 aelodau cenedlaethol o "Blaid y Bobl." Siaradent am Werin-lywodraetlh Twrci, ond trodd Caer- gystennyh glust fyddar i'w gofynion, a'r unig lywodr- aeth dramor a roes sylw iddynt o ddifrif ydoedd Llywodr- aeth y Sofiet ym Moscow. Dyna paham y mae croeso i Drotsky ar ddaear Twrci heddiw arwydd o ddiolch ydyw am ei gymorth i Fwstaffa Kemal yn nydd y pethau bydhain. Fel y gwelsom, buan y rhoddwyd prawf llym ar Gym- anfa Ieuanc Angora. Gorfu arni ymladd â'r Groegaid, a llwyddodd. Yna daeth cynhadledd fawr yn Angora Tachwedd I, 1922, dydd cyhoeddi Gwerin-lywodraeth Twrci. Cyn pen pythefnos daeth gair ddarfod i'r Swltan, Mahomed VI., geisio noddfa ar long-rhyfel Brydeinig, a ffoi am Malta. Dyna ddíwedd yr ymerodraeth Otoman. Yn wleidyddol yr oedd y ffordd yn hollol glir bellach. Ntid oedtì ond un wladwriaeth gan y Twrc, gyda Chymanfa Genedlaethol yn ffrwyth etholiad, a'r Ghazi wedi ei ddewis yn Arlywydd y Werin-lywodraeth. Darfu am yr ymerodraeth Otoman, ac nid gwiw ceisio ei hedfryd. Ni byddai gan Dwrci Newydd yr un rhan½barth a reolid gan dramorwyr; ac ni chwenychid ganddi eto y gwledydd