Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HENRIK IBSEN. YNG nghanol y ganrif ddiwethaf deffrodd mudiad cenedl- aethol brwd ond pur arwynebol yn Norway. Darganfu- wyd hen farddoniaeth, galwyd am burdeb iaith, chwifiwyd y banerau cenedlaethol o gylch dawhs y gwerinwr, a chod- wyd cri am destunau o fywyd a llenyddiaeth y wlad i'r bardd, i'r arlunydd, ac i'r cerddor. Un o effeithiau'r symudiad oedd agor, yn 1851, y chwaraedy ym Mergen, ac i fod yn arolygydd arno gwahoddwyd gwr ieuanc digon tlawd a dinod, Henrik Ibsen. (O, na wnai Cymru rywbeth tebyg! Onid oes lle, fel yng ngholegau'r Amerig, i chwaraedy yn ein colegau ni ?) Bach oedd y cyflog, ond rhoddwyd iddo dri mis ac arian ei dreuliau i ddysgu ei grefft. Dilynwyd pum mlynedd ym Mergen, cyfnod pedair drama ramantus a'u sylfaen mewn caneuon gwerin, gan saith yng Nghristiana fel arolygydd y chwar- aedy yno. Tyfodd ei ddiddordeb yn y sagas, a hwy a roddodd fywyd i'r ddwy ddrama fawr, Milwyr Helge- land" a'r "Ymhonwyr." Ysgrifennwyd yr olaf, panor- ama wych ac yn ei chanol gymeriadau anferth Hakon a Skule, yn yr amser byr o chwech wythnos. Oer fu'r der- byniad, a thrwy fethiant y chwaraedy yn 1862 daeth cyf- nod o dlodi eto i gwpan yr awdur. Wrth ganfod mor ddigyffro ydoedd ei wlad pan dorrodd y rhyfel allan rhwng yr Almaen a Denmarc, ac wrth deimlo bychahder a chulni a hunan a materoliaeth y bywyd cenedlaethol, dechreuodd enaid Ibsen suro, a chydag ysgoloriaeth deithio cychwyn- nodd am Ferlin, ac ymlaen oddi yno i Rufain. Dramaydd crwydrol a fu am weddill ei oes. Yn ei ddrama farddonol, "Brand" (1865), darluniodd y gwerinwr, yr ysgolfeistr, y pregethwr, a'r beili, llu heb bersonoliaeth na hyfrydwch rhyddid persohol, yn nhlodi'r cwm dihaul is mynyddoedd yr eira a'r ystorm. Amdanynt y mae hualau traddodiad, ac nid yw'r eglwys ond peiriant wedi ei dagu gan ffurfiau. Uwch y dorf ddienaid a rhydd- ieithol hon y saif y delfrydydd Brand, gwr yr ewyllys ddi- ysgog a'r weledigaeth newydd, ac o'i gwmpas y mae holl