Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YMDDYGIADAETH. i. YN gymharol ddiweddar, tra gorfoleddai aml i wr diniwed yn nhranc tybiedig materoliaeth, dechreu- wyd sôn, yn arbennig yn yr Unol Daleithiau, am rywbeth newydd a ddygai'r ehw Behaviourism. Erbyn hyn, ymledodd y peth newydd hwnnw dros fwy nag un cyfandir. Y mae ei ddylanwad yn drwm ym Mhrydain, yn yr Almaen ac yn Ffrainc, a chy- ffesodd Mr. Bertrand Russell rywdro y gallai'r ddysg fod yn "terribly adequate," er na dderbyniai ef mohoni fel y lleferid hi gan ei harweinwyr. Gwnâ'r gair "Ymddygiad- iaeth" y tro'n iawn am Behainourìsm; a phwrpas yr erthygl !hon ydyw egluro rhai o osodiadau sylflaenol y ddysg. Diffiniwn Ymddygiadaeth fel ymgais i lunio Eneideg yn nhermau'r corff, ac y mae'n bwysig sylwedd- oli bod arweinwyr yr ysgol hon yn dadlau'n gryf y gellir cyfrif yn gwbl am ddyn drwy gyfrwng y corff a'i symud- iadau, a bod pob athrawiaeth arall y sy'n pwyso ar ddim heblaw'r corff a'i symudiadau i'w gwrthod fel peth di- sail ac anwyddonol. ii. Byddai'n gamsyniad meddwl mai dysg heb achau iddi ydyw Ymddygiadaeth; tyfodd yn uniongyrchol allan o awyrgylch wyddonol ac athronyddol yr oes, a phurion peth a fyddai nodi rhai o'r gogwyddiadau cyffredinol sy'n ddiamau yn cyfrif am ei hymddangosiad a'i bri mawr ar hyn o bryd. Yn un ,peth, y mae'n amlwg fod i'r ddysg berthynas agos iawn â symudiadau bywydegol. Pa bryd bynnag y pwysleisir y wedd fywydegol i'r cyfanfyd, cahfyddir dwy ysgol o ddysgawdwyr, y naill yn dysgu mai rhywbeth gwa- hanol i'r corff ydyw bywyd a rhywbeth y sy'n trigo ynddo, a'r llall i'r gwrthwyneb yn dadlau nad oes i fywyd ddim yn y byd sy'n hunanlywodraethol (autonomous), ac y gellir cyfrif yn gwbl foddhaol amdano drwy gategor-