Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU DIWEDDAR AR YR HEN DESTAMENT.* Ni chafodd yr un gangen o efrydiaeth ddiwinyddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf gynifer o golledion drwy farwolaeth ag a gafodd yr adran honno sy'n ymwneuthur ag efrydu'r Hen Destament. O blith yr arweinwyr, bu Driver a Cheyne farw cyn y rhyfel, ohd yn ystod yTîeng mlynedd diwethaf, collasom Buchanan Gray, Skinner, a Peake, heb sôn am ysgolheigion galluog fel Strachan, Ball, ac Abrahams. Gwir yw fod gyda ni eto wyr grymus fel Lofthouse, Oesterley, Wheeler Robinson ac S. A. Cook, a dhredwn fod gan Kenhett a G. A. Cooke rywbeth o werth i'w roddi inni; ohd gydag eithriad neu ddau, nid yw'r genhedlaeth ieuengaf yn debyg o gyn- hytfchu gwaith o'r un ansawdd â'i rhagflaenwyr. Er hynny, pery toreth o lyfrau i lifo allan oddi wrth ein prif gwmniau cyhoeddi, llyfrau a allant fod o fudd nid yn unig i'r ysgolhaig, ond hefyd i'r brodyr sydd yh y weini- dogaeth. Gellir mesur cynnydd unrhyw adran o efrydiau ar hyd un o ddwy linell wahanol. I ddechrau, gellir cael cyn- nydd drwy symud ymlaen, trwy dorri tir newydd, daí- ganfod ffeithiau newyddion, cynnig esboniad newydd nr hyh ac arall, a datblygu syniadau gwreiddiol. Neu ynteu, gellir ei gael trwy daenu ar led wybodaeth sydd eisoes yn eiddo'r ychydig ond heb ei dwyn i afael y cyhoedd yn gyffredinol. Yn ddiweddar hu'n anos nag erioed cyn- hyddu i'r cyfeiriad cyntaf a nodwyd oherwydd fod drud- aniaeth cyhoeddi llyfrau wedi cyfyngu ar nifer y gweith- iau gwir ysgolheigaidd y gellir eu cynhyrchu. Ni fu erioed ym Mhrydain Fawr farchnad eang i lyfrau'r awduron a fentrai symud ymlaen, a phair amgylchiadau ariannol eiti gwlad heddiw na fedr ein cyhoeddwyr ddwyn allan wait'i *Yn Saesneg y cyfansoddwyd yr ysgrif hon: yn garedig iawn troswyd hi i'r Gymraeg gan Mr. Richard Williams, M.A., Prif- athro Ysgol Sir y Bechgyn, y Bala. Rhoddwyd enwau llyfrau'r Hen Destament ynddi fel y maent yn Y Geiriadur Beiblaidd.