Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU. THE NATURE OF KNOWING. By R. 1. Aaron, M.A. (Wales), D.Phil [Oxon.)t Sometime Fellow oj the University of Wales. Pp. 154. 7/6. Williams and Norgate, London, 1930. Pwnc hynod ddiddorol yw'r un yr ymdrinir ag ef yn y llyfr hwn. A phwnc eithriadol ddyrys ydyw hefyd. Derbyniodd sylw mawr gan athronwyr o bob ysgol ac ymhob cyfnod ymron, ac ni chyrhaeddwyd unoliaeth barn arno hyd heddiw. Rhoddodd Dr. Aaron astudiaeth blynyddoedd i'r pwnc. Cafodd y radd o Ddoeth- awr mewn Athroniaeth am draethu arno gan Brifysgol Rhydychen yn y flwyddyn 1926: a'r traethawd hwnnw wedi ei ad-drefnu a'i symleiddio yw ei lyfr. Darllenais ef gyda diddordeb mawr. Anodd ei roddi o'r neilltu nes ei ddarllen i'r diwedd. Cefais oleuni ar lawer pwnc dyrys. Nid oedd yn fy argyhoeddi bob amser o ddilysrwydd ei gasgliadau; ac anodd ryfeddol oedd dywedyd paham, oherwydd yr oedd yr ymresymiad mor glir, mor fanwl, ac mor gadarn nes gadael dyn mewn cryn benbleth i esbonio ei gyfeiliornad-os cyf eiliorni yr ydoedd. Braidd na ddywedwn fod ei ymresymiad yn ddi-drod-yn-61 pe derbyniem ei ragdybiau. Felly rhaid oedd troi i holi a oedd y rheini yn gywir. Ei bwnc yw natur gwybod. Gwahanieithir rhwng y weithred o wytbod, gwrthrych gwybod, a'r cyfanswm syniadau a elwir yn wybodaeth.' Ymchwiliad i'r cyntaf yw ei amcan, -natur y lueithred o wybod. Dyma'i ragdybiau: (1) Y mae gwybod yn ffaith nid oes ystyr i ymchwil i natur gwybod i'r neb sy'n amau hyn. (2) Nodweddir gwybod .gan ymdeimlad o sicrwydd. Cydna. byddir y meddwn yr ymdeimlad hwn weithiau pan nad ydym mewn gwirionedd yn gwybod. Y mae'r ffaith fod yr ymdeimlad o sicrwydd yn perthyn i gamgymeriad neu gyfeiliornad hefyd yn peri anhawster mawr i Dr. Aaron, oherwydd ei farn ef yw fod y weithred o wybod yn anffaeledig, a'r arwydd o'i hanffaeledigrwydd yw'r ymdeimlad o sicrwydd ynglŷn â hi. (3) Nid oes mewn gwybod yr elfen leiaf o gamgymeriad neu gyfeiliornad. Y mae gweled elfen felly mewn syniad a goleddir gennym ynghylch unrhyw fater yn ein hargyhoeddi ar unwaith nad oeddem yn gwybod y peth hwnnw. Ni chydnebydd Dr. Aaron wa- haniaeth graddau merwn gwybod. Nid meddu gwybodaeth ond meddu opiniwn—rhywbeth hollol wahanol—yr ydym pan y mae elfen amheus yn ein syniad neu elfen o gamgymeriad ynddo. Y mae gwybod yn sicr a chyflawn, mor bell, hynny yw, ag y mae'n mynd. Nid yw ychwanegu gwybodaeth yn newid dim ar yr hyn a wyddom. (4) Gwrthrych pob gwybod yw realiti. Gall fod amrywiaeth barn am natur realiti, ond nid oes amheuaeth nad y real yw gwrth- rych gwybod.