Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ARWEINIAD I EFENGYL IOAN. Gan yr Athro W. R. Williams, M.A, Aberystwyth. Td. 102. Pris, 1/9. Dolgellau: Argraff* wyd gan E. W. Evans, Cyj. Hysbysir ni yn y Rhagair i'r llyfr bychan hwn," ys gelwir ef yno, ddarfod i'r awdur ^baratoi'r deg pennod cyntaf yn ysgrifau i'r Cymro; newidiwyd ychydig ar y rheini, a chwanegwyd atynt, a ffrwyth hynny yw'r deuddeg pennod a roddir inni yma. Bydd yn dda gan laweroedd gael mewn ffurf hwylusach na dal- ennau o newyddiadur yr ysgrifau hyn o waith un o athrawon ieuengaf y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth. Hyd y gwyddom, dyma'r gyfrol gyntaff a gyhoeddwyd o'i waith, a chroesawir hi felly gen- nym. Y mae yîiddi ragor na rhagarweiniad noeth neu â rhoi'r peth mewn dull arall, nid penodau ar awduriaeth yr Efengyl yn unig a geir yma, ond trafodaeth hefyd ar faterion megis Athraw- iaeth Person Crist, ac Athrawiaeth Gwaith Crist, yn ogystal ag Athrawiaeth yr Ysbryd, a'r Sacramenitau fel yr edrychir arnynt oll yn y bedwaredd Efengyl. Fel y gallesid disgwyl, ceir yn y gyfrol lawer o ôl darllen a chwilio. Y mae'r nifer o awduron y cyfeirir atynt neu y dyfynnir ohonynt yn lluosog; ac nid esgeuluswyd yn eu plith esbonwyr y Cyfundeb nac ychwaith lawlyfr y Pritfathro J. Morgan Jones. Ceir aml enghraifft hefyd o feddwl digon diduedd i ddyfynnu gyda chymeradwyaeth weithiau o waith awdiiron yr anghytunir â'u gosodiadau ar bethau eraill. Nid oes rhaid darllen rhagor na'r bennod gyntaf weled y cred yr awdur mai Ioan yr Apostol ydoedd awdur yr Efengyl hon. Tipyn yn annisgwyliadwy ydyw cael ysgolhaig heddiw yn glynu wrth y gred hon. Teimlo y bydd amryw ohonom nad oes digon o ddefnyddiau pendant yn nhraddodiadau'r Eglwys am Ioan i ad- eiladu dim arnynt; a bod nodweddion yr Efengyl ei hun yn ein tueddu i amau'n fawr ai Ioan fab Sebedeus yw ei hawdur. Nid hawdd ydyw dilyn ymresymiad yr athro ar hyn, nac ychwaith pan ymdrin â phwnc fel amseriad y Croeshoelîo (td. 23-24). Dyma tfrawddeg y ibydd yn rhaid aros nid ychydig wrth ei phen i wybod pa beth a feddylir Geilw Bernard sylw at y ffaith hynod mai Cristnogaeth y gelwir y grefydd a sefydlodd yr Iesu pan mai Ei hoff enw arno Ef Ei Hun oedd Mab y Dyn (td. 48). Os gofynnir beth yw safbwynt yr awdur, gellid ateb i dechrau na tfyn ddilyn yr esbonwyr diweddar hynny a gynrychiolir gan wr fel E. F. Scott, a gychwynnodd fudiad newydd gyda'i lyfr ar y bedwaredd Efengyl. 0 leiaf ni ddilynir Scott yn ei britf syniadau. Ac yn ail, 'gellir dyfalu cryn lawer wrth inni ddyfynnu sylw neu ddau a ddengys osgo ddiwinyddol yr awdur. Er enghraifft dyma ddau ddyfyniad o'r bennod ar Athrawiaeth Gwaith Crist (pen. VII.). Os derbyniwn syniad Ioan am bechod, teimlwn ar unwaith angen iawn gwrthrychol-rhywlbeth mae Duw wedi ei wneuthur dros ddyn- ion na allent ei wneuthur eu hunain (td. 57). Er teimlo euog- rwydd yr Iddewon, eto gwelwn nad oeddynt ond offerynnau yn llaw Duw. Nid brâd dynion, na'u llid, na'u cynddaredd a ddygodd yr Iesu i'r Groes, ond darostyngiad Ei gariad i ewyllys Ei Dad (td. 57-58). Fel y gallesid tybio oddi wrth y brawddegau hyn a'u cyff- elyb, ceidwadol yw safbwynt awdur y llyfr hwn ar y pynciau a drinir ganddo. Ond dylid chwanegu y dyry ei resymau am hynny, ac mewn rhad mannau yn arbennig fe ddadleua'n gryf dros y farn honno.