Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nid ydym bob amser yn siwr a lwyddodd yr awdur i fynegi ei feddwl mor eglur ag y gallasai. Dyma, er enghraifft, osodiad y dylid ei roddi ychydig yn amgen nag y gwneir: "Ond, i loan, cyflawnwyd yr addewid yr Iesu yr anfonai Ddiddanydd arall, nid yn gymaint ar ddydd y Pentecost, ond ar ddydd Ei Atgytfodiad (td. 66). Dyma un arall: "Os edrychwn yn fanylach, gwelwn fod bwyta cnawd ac yfed gwaed Mab y Dyn yn gyfystyr â dyfod ato,' 'credu ynddo.' Y mae'n wdr fod yn weddol hawdd ffeindio oddi wrth y cysylltiadau pa beth a olygir, ond da fuasad gallu osgoi'r angen am chwilio hynny ynglyn â'r naill esiampl fel y llall. Nid yw'r gyfrol yn lan oddi wrth ryw fân frychau. Ceir Ter- tullion, Tertulian, a hefyd Tertwlian, a diau mai'r ffurf orau i Gymro yw'r olatf. Y mae eraill sy'n eglur ddigon, pethau na ddylent dram- gwyddo neb. Yr unig wall gwerth galw sylw ato yw gadael ond allan ar uchaf td. 65, lle dylid darllen "ond yn y Testament Newydd" pan sonnir am y gair Groeg paracletos. Er anghytuno ohonom, a hynny am resymau lawer, â safbwynt yr awdur, ac â'.i ymresymiad yn aml, ni ellir llai na chymeradwyo'r gyfrol fel un y sy'n rhwym o helpu i wneud efrydu'r bedwaredd Efengyl yn ddiddorol, ac o ddeffro a chyffroi meddwl llawer un, ac yn eu plith yn arbennig y rhai hynny na allant yn eu byw gytuno ag awdur yr Arweiniad hwn. Ac at hynny, y mae ynddi aml air a gos- odiad a'n cynorthwya bawb i weled gogoniant y bedwaredd Efengyl. D.F.R. FFRAINC A'I PHOBL. Gan R. T. Jenkins. Td. I—I50. Wrec- sam, Hughes a'i Fab 1930. 3/6. YR APEL AT HANES AC YSGRIFAU ERAILL. Gan R. T. Jenkins. Td. I—I78. Wrecsam, Hughes a'i Fab 1930. 3/6. Ymddangosodd y rhan fwyaf o'r ysgrifau hyn eisoes yn y Llenor, ond bydd pawb yn ddiolchgar i Mr. R. T. Jenkins am eu casglu ynghyd yn y ddwy gyfrol wertMawr yma. Dawn y traethodydd ar ei .gorau a welir ynddynt, a pha ddawn sy'n fwy dymunol na honno ar ei gorau? Y mae'r awdur yn un o'n hysgrifenwyr mwyaf dysg- edig, mwyaf erudite chwedl y Sais, eithr nid baich yw ei wybodaeth iddo etf nac i'w ddarllenwyr chwaith. Ceir yma wybodaeth sy'n neilltuol o eang ac ar yr un pryd yn hynod o fanwl. Hawdd fuasai nodi llu o enghreifftiau o'r cyfuniad hapus yma, ond rhaid bodloni ar ddwy yn unig. Y mae'r penodau cyntaf yn y llyfr Teithio (td. 9-39) yn llawn o fanylion diddorol am urddau'r mynaich a hen ddinasoedd Ffrainc, a'r bennod olaf yn y llyfr Hanes (td. I42—I78) yr un mor llawn o tfanylion am fywyd yr oesoedd canol. Ond, ochr yn ochr â hwynt, gellir cyfeirio at yr ysgrif olau ar Ffrainc a'i Phobl mewn un llyfr, neu at honno ar Gymru yng nghyfnod y Tuduriaád yn y llall fel esiamplau rhagorol o fedr Mr. Jenkins A gymryd golwg .gyffredinol ar gyfnod neu i drafod ystyr neu nodweddion rhyw fudiad neu oes neilltuol. Ac fel yr awgrymwyd eisoes, gesyd yr awdur y cyfan gerbron ei ddarllenwyr yn hwylus a didrafferth. Wedi cychwyn darllen un o'r ysgrifau hyn, rhaid myned ymlaen i'r diwedd, a pheth hawdd iawn íydd dychwelyd atynt drachefn. Fel hanesydd, er bod y ffeithiau ar flaenau ei fysedd, rhydd Mr. Jenkins inni rywbeth heblaw ffeithiau moelion, a'r peth olaf a ddy-