Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wedem amdano yw yr hyn a ddywaid ef am Theophilus Evans, mai diwydrwydd morgrugyn neu jac-y-do a gawn, ysfa at gasglu manion, ac nid y feirniadaeth ochelgar a'r dethol deallus y dylai hanesydd eu harddangos." Er na dderbyn pawb ei holl gasgliadau ac na honna'r awdur ei fod yn hollol dddduedd ar bob pwnc (pwy, atolwg, ymhlith plant dynion a gyrraedd y tir uchel hwnnw?), eto llwydda Mr. Jenkins i ddatgan ei farn gyda thegwch amlwg, a gall afael mewn problem fawr a'i thrafod i bwrpas. Enghraifft dda o hyn yw ei sylwadau ar y syniad o gynnydd yn hanes gwareiddiad. Nid llai dymunol, ychwaith, yw'r traethodau ar bersonau neilltuol: yn y maes yma nid addolwr difeddwl yw'r awdur-gwêl ddiffygion Honest John, a thecach a mwy catholig yw ei gydymdeimlad na'r eiddo Emrys ap Iwan. Fel teithiwr nid oes mo'i ddifyrrach. Crwydra'n hamddenol yma ac acw, gan adael y briffordd weithiau a dod yn ôl drachefn, ac wedyn ymlaen â ni yn ei gwmni hyd oni thynn y peth nesaf ei sylw craff. Gwyr lawer mwy am rannau o Ffrainc nag a wyr y Ffrancod eu hunadn. (Ces braw o hyn y dyddiau diwethaf yma: teithiwn gydag aelodau Urdd Gobaith Cymru heibio'r trydydd bryn heb fod ymhell o Dijon, a gofynnais i Ffrancwr siriol beth oedd y gofgolofn ar ben y bryn. Colofn yr olaf o ymerodron Rhuf- ain ydoedd, meddai hwnnw yn ei ddygn anwybodaeth: gwynfyd na fedrai ddarllen llyfr Mr. Jenkins !) Ar ei deithiau arwain yr awdur nd o hyd i'w gyfrinach: cawn wybod beth sy'n hoff ganddo a beth a gasha, ac nid anniddorol yw ei fân ragfarnau. Nid oes ynddo awydd, medd ef, am weled yr Almaen neu'r Swisdir. Brysied y dydd, meddwn ninnau, y teifl hen ddinasoedd fel Cologne, Mainz a Geneva eu hud dros deithiwr mor effro a diddorol Nid rhaid dywedyd bod iaith ac arddull yr ysgrifau yn hollol naturiol a byw gwyr darllenwyr y Llenor mor ystwyth a graenus yw Cymraeg R. T. Jenkins. Nid yw efallai bob tro yn gwbl gyson â'r canonau diweddaraf (e.g. dywed am dywaid, diystyrodd a diystyr- rid), eithr nid oes fymryn o goegni dysg ar iaith na chynnwys y ddau llyfr hyfryd a gwerthfawr yma. Diolch iddo amdanynt a llwydd mawr iddo yn ei faes newydd ym Mangor. Y Bala. G. A. EDWARDS. GRUFFYDD JONES, LLANDDOWROR 1683 1 761. Gwasg Prifysgol Cymru, 1930. Td. 62. Pris swllt. THE LIFE AND WORKS OF GRUFFYDD JONES. By F. A. Cavenagh. Cardiff, 1930. Dyma ddwy gyfrol fechan a gyhoeddwyd gan Wasg y Brifysgol ar gyfer dathlu Deucanmlwyddiant yr efengylydd a'r gwladgarwr enwog o Landdowror. Paratowyd y gyntaf ar gyfer yr ysgolion; y mae ar gynllun y llyfryn destlus a gyhoeddwyd yn 1928 ar Hywel Dda — yr argraffwaith yn lân a gofalus, y testun yn Gymraeg ac yn Saesneg, a darluniau i dynnu sylw'r darllenydd brysiog. Ymddir. iedwyd y gwaith o'i chyfansoddi i law fedrus Mr. R. T. Jenkins, ac ni raid hysbysu'r sawl sydd yn gyfarwydd â'i Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif ei fod yn feistr ar ei bwnc, yn hollol gartrefol yS y cyfnod, ac yn deall sut i osod Gruffydd Jones yn ei le priodol ynghanol symudiadau a thueddiadau ei oes. Cymer ofal i egluro nad yw'n ei ddal ei hun yn gyfrifol am ddewis 1930 yn flwyddyn