Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y dathlu; ansicr yw'r adeg y dechreuwyd gyntaf gyda'r ysgol deith- lol, ond nid cyn 1731 y bu hynny, a byddai'n llawn mor rhesymol nodi 1737, y flwyddyn y bu farw Syr John Phillips, ac y cafodd Gruffydd Jones rwydd hynt i ddilyn ei gynlluniau ei hun. Ond gan tfod y cyíeillion yn yr ardal wedi disgyn ar 1930 ac wedi dechrau ar eu trefniadau, tybiwyd mai doeth a grasol fyddai cydsynio. Daw'r gyfrol arall o Abertawe, lle mae'r awdur yn Athro Addysg. Denwyd sylw Mr. Cavenagh gan bwysigrwydd gwaith Gruffydd Jones yn natblygiad addysg elfennol yng Nghyniru, a chyhoeddodd ddwy erthygl arno yn y Journal of Adult Education. Gan fod yr erthyglau'n ymdrin yn îÚwyr iawn â neilltuolion ein harwr fel addysgwr ac arloeswr, gofynnwyd ei gennad i'w cyhoeddi at y Deucanmlwyddiant, a dyma hwy, felly, mewn cyfrol y dylai pob Cymro llengar ei darllen a'i hastudio. Y mae yma bethau nas argraffwyd o'r blaen mewn unrhyw lyfr ar Gruffydd Jones, megis Rheolau yr Ysgolion Cymraeg": cyfrol ydyw hpn a dal¦ ei chwilota'n fanwl gan 'bwy bynnag a ewyllysio ddeall yr amgylchtfyd y cododd y Diwygiad Methodistaidd ohono. Gellir dweud yn ddibetrus d'r ddau lyfr yma a'r seremoni yn Llanddowror roi help mawr inni sylweddoli ein gwir ddyled fel cenedl i Gruffydd Jones. Meddyliwyd amdano fel rhyw seren fore, un o'r Methodistiaid cyntefig, cymar a chyfaill Howel Harris a Daniel Rowland. Diau ei fod o'r un ysbryd, a'i amcan yn bur debyg, sef deffroi'r werin o'i thrymgwsg ysbrydol a'i hadnewyddu i grefydd efengylaidd. Ond yr oedd ei foddion yn hollol wahanol, ac yn neilltuol iddo ef ei hun. Ef a ddytfeisiodd y cynllun 0 anfon yr ysgolfeistri ar gylch, ef a gododd yr arian i'w cynnal, ac iddo ef y mae'r clod yn ddyledus am yr effeithiau a ddilynodd, sef troi ei gyd-genedl o fod yn anllythrennog i fod yn ddarllenwyr y Gym- raeg. Trwy hynny, gwnaeth yn bosibl i'r diwygiad ymledu a chryfhau; estynnodd oes yr iaith, hefyd, ar adeg pan yr oedd yr hen ddiwylliant wedi marw a'r newydd heb ei eni. Tuedd y Methodistiaid ydyw coffáu ei enw am ei fod yn un o'u caredigion yn nyddiau'r erlid; tuedd yr Eglwyswyr ydyw ei ganmol am ei ffyddlondeb i'r Eglwys a'i threfniadau. Y mae gan y naill a'r llall dir cadarn dan eu traed, ond yr ydym yn raddol yn dod i ddeall mai'r genedl a noddwyr yr iaith sydd a'r achos pennaf i goledd ei goffadwriaeth, am iddo adeiladu ar y sylfaen sicr mad drwy eu hiaith a'u traddodiadau eu hunain y mae gwn- euthur daioni i'r Cymry, ac nid drwy unrhyw offeryn estronol. Am y rheswm yma yr ymdyrrodd y miloedd i Landdowror ar brynhawn Sadwrn hyfryd ym mis Mehefin ac y traddodwyd areithiau gwlad- garol dan gysgod yr hen dŵr a welodd Gruffydd Jones gynifer tro yn ei wenwisg ac yntau'n darllen y Gwasanaeth Claddu. OUT OF THE DARK. A Study of Early Wales. By Ieuan T. Hughes. Wrexham, 1930. Dyma gyfrol fach ddefnyddiol iawn i'r neb a fynno ddeall safle presennol pethau gyda golwg ar gynhanes ein gwlad. Crynhoir yn ddestlus o fewn ei 130 o dudalennau ffrwyth ymchwil y blynyddoedd diwethaf i'n hynafiaethau hyd y dyfnod Rhujfeinig. Cwyna'r áwdur yn ei ragymadrodd mai prin iawn yw'r diddordeb a ddengys ei gydgenedl mewn ymchwiliadau o'r fath; ond rhaid yw cofio mad cymharol newydd i'r Cymro uniaith yw'r syniad fod hanes y ddyn-