Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

oliaeth yn ymestyn yn 61 am filoedd ar filoedd o flynyddoedd, ac o'r braidd y mae ef eto wedi ymryddhau oddi wrth y dull o feddwl sydd yn olrhain pob dechreuad i Adda a Gardd Eden. Dalied yr hynaf- iaethwyr ati, heb wan-galonni, i gyhoeddi cyfrolau fel hon ar gyfer y dyn cyffredin, ac yn y pen draw ni fethant yn eu hamcan. Wrth gwrs, y mae'n rhaid artfer iaith y dyn cyffredin, os amcenir sicrhau ei sylw; rhaid fydd troi'r termau technegol, y mae pob dosbarth o wyddonwyr mor hoff ohonynt, yn ymadroddion y gall y lleygwr eu hamgyffred. Fel rheol, y mae Mr. Hughes yn gofalu gwneuthur hyn, ond rbaid addef ei fod ambell dro'n cilio i'r niwl ac yn peri tra- fferth i'r darllenydd i ddeall ei amcan a'i ystyr. Ond, ar y cyfan, y mae'r Uyfr yn hawdd ei ddarllen, yn glir ei syniadau, yn gyfoethog o- wybodaeth ac yn agoriad rhagorol i faes ymchwiliad a â yn bwysicach o ddydd i ddydd. Bangor. JOHN EDWARD LLOYD. Y GAN NI CHANWYD. T. E. Nicholas. Cyhoeddir gan Wasg Aberystwyth. Swllt. Camp anodd yw canu cân deilwng, ar fater teilwng, gan ddwyn allan yr hyn a brofwyd yn y galon a'r dychymyg o'i rin a'i swyn. Camp anoddach drachefn yw traethu'r anhraethadwy, mewn profiad neu syniad. Ymddengys ar yr wyneb yn wrthddywediad mewn geir"- iau i sôn am y gan ni chanwyd." Clyw rhywrai fiwsig gwirionedd a .geiriau nad yw gyfreithlon i ddyn eu hadrodd: cân ddi-eiriau yw eu cân. Ond daw profiad yn fwy o werth i'r person ei hun wrth ei fynegi i eraill, a thrwy geisio cyfrannu'r un mwynhad iddynt hwy. Rhoi yw'r ffordd i gadw, ym myd y pethau gorau. A than ysbrydoliaeth yn ddiau y rhoes Pwyllgor Lerpwl y testun hwn i Bryddest Goronog Eisteddfod 1929. Cyffyrddodd yr ymadrodd galon lluaws o'm beirdd blaenaf, a chad, yn 61 y tfeirniadaeth, gnwd helaeth ac aeddfed o gynhyrchion. A phan goronir un o blith lluaws o- bryddestau da, caiff ymgeiswyr eraill heffyd eu gwobr. Nid colled na gwastraff yw cyhoeddi'r rheini, oblegid ceir cyfle felly i'r werin gymharu neu gyferbynnu, a dilyn ôl traed y beirniaid gosodedig. Gellir gwneud hyn heb awgrym o wrthryfel, nac unrhyw fesur o amheuaeth o uniondeb y ddedfryd swyddogol. Mae T. E. Nicholas yn fardd profedig, a'i gyfansoddiadau yn hysbys ac yn boblogaidd ers talm. Ac er mai i'r Werin y canodd amlaf, yn ôl teitlau ei gyfrolau .a gyhoeddasid o'r blaen, nid oes raid ond bras^ddarllen ei Bryddest hon i deimlo ei fod yn gymaint o fardd ag o werinwr. Y mae hefyd yn Llenor ac yn Gyfrinydd. A thrwy'r cyfuniad cynganeddol hwn cynhyrchodd gân gampus i'w destun presennol. Hapus iawn yw ei raniadau, yn dangos ei fod yn gweld y diwedd o'r dechreuad, sef Gwnawn Fardd, y Gweled Mawr, Colli'r Gân, Rhwng Dau Olau. Y mae unoliaeth yn y gân. Nid clytwaith disglair mohoni, namyn cyfanwaith. Wrth y doctor, a weinydda arno yn ei ing, y datguddia'i gyfrinach, ar 61 cau'r drws yn erbyn clustiau dienwaededig. Profiad chwerw sy dan y gân: — Stori Uudw breuddwydion sarn Uffernau fy mywyd i." Trwy boen y genir i'r byd fywyd newydd: rhaid yw marw i fyw,. a thrwy gleisiau yr iacheir. Mae'r bardd yn gaethwas yr awen, ya.