Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. NODIADAU CYFFREDINOL. Mae Eglwys Dduw trwy'r ddaer a'r nef yn un." TYBIWN y cenir yr emyn hwn neu emynau tebyg iddo gan Gristnogioai ymlhob oes a gwlad. Eto i gyd un o brif nodweddion yr Eglwys ar hyd y can- rifoedd yw'r duedd i ymrannu. Ymrannodd yn ddwy ad- ran esgabol fawr yn lled gynnar yn ei hanes, ac aeth yn rhwyg rhyngddynt yn y flwyddyn 1052 O.C. Yn Niwyg- iad Protestannaidd yr unfed ganrif ar bymtheg ymran- nodd yr adran orllewinol yn amryw Eglwysi, a'r rheiny drachefn ymhen amser i lu o enwadau neu gyfundebau llai. Cyrhaeddodd yr ymrannu hwn ei eithaf yn Unol Daleithiau'r America, lle cyfrifir 'bod cynifer â 212 o gyf- undebau Cristnogol o bob math. Y mae nifer lled fawr, er nad llawn cynifer, ym Mhrydain hefyd. A yw'r duedd hon wedi cyrraedd ei; heithaf bellach, a'r rhod wedi dechrau troi ? Ymddengys pethau felly, oblegid gwelir ar bob llaw ryw aduno yn y blynyddoedd diwethaf hyn. Yn Hydref 1929 gwelwyd dwy Eglwys fawr Bresbyter- aidd yr Ysgotland yn myned yn un. Ychydig cyn hynny ffurfiwyd un Cyfundeb mawr gah Annibynwyr a Phres- byteriaid a Wesleaid Canada. Ym Mhrydain symudir i uno â'i gilydd b-um Cyfundeb a olrheinia eu tarddiad i John Wesley a'i ddilynwyr. Ac yn ddiwethaf olllceir symud- iad sydd efallai'n fwy diddorol fyth, symudiad i uno yn Ne India Annibynwyr a Phesbyteriaid (y rhai a ymunasai â'i gilydd ychydig yn ôl) ynghyda'r Eglwys Esgobol a'r Wesleaid. Diddorol a fyddai trafod holl achosion yr aduno hwn; ond nid oes ofod hyd yn oed petai gennym y wybodaeth angenrheiddol. Diau eu bod yn lluo&ag a chymhleth. CYF. LXXXV1. RHIF 378. IONAwR. 1931. B