Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYSGU CREFYDD YN YR EGLWYSI.* Y mae addysgu yn galw am y pendant. Ychydig o ystyr na dylanwad a fedd oni fyddo'n bendant. Dyna un meddwl iddo-gwneud peth yn weddol sicr a'i gadw yn rhydd oddi wrth os, a hwyrach, ac efallai; prin y gellir cydnabod bod y pethau hyn yn ei fyd. I'r graddau y llwydda fel addysgu, y llwydda 'hefyd i ymlid o'i fyd bob ansicrwydd meddwl a'c amheuaeth. Rhaid yw iddo deimlo'i fod yn iawn, yn wir, a phrofi ei eglurder. Wrth gwrs, y mae mewn crefydd ddirgelwch, a hynny i bawb; ac y mae lle i ofni bod diffyg ar ben neu ar galon y neb a wad ei dirgelwch. Fe ddylai dyh deimlo'r dirgel- wch heb i neb sôn amdano wrtho onid e y mae'n hanner cysgu. Ac yn r'hyfedd iawn, i'r Eglwys, ac yn arbennig i'w phre- gethwyr, y pethau dirgel yw ei phrif b'ynciau, — Duw a dyn, ymgnawdoliad ac iawn, pechod a barn, byw a marw a thragwyddoldeb, cyfiawnder a gwirionedd. Mewn un ystyr ni wyr sut un ydyw Duw, na'r modd y mae yn meddwl ac yn teimlo ac yn byw. A ydyw yn meddwl o gwbl a oes ganddo brofiad o fywyd? Nid oes neb yn gwybod y pethau yna fel y mae yn gwybod amibell i beth. Gall fod yn ddyfnaöh, yn ddwysach gwybodaeth, ond nid yr un fath ag ambell i wybod, er bod rhai yn siarad fel petai'r Hollalluog yn byw yh eu parlyrau hwy; a'r hyn a deimlir wrth eu gwrando yw nad am yr Anweledig y llefarant, ond am rywbeth tra gwahanol. Pwysig iawn yw sylweddoli ei ddirgelwch Ef nes crynu ac arswydo wrth geisio meddwl amdano. Prin y mae neb yn addas i am- canu dysgu i eraill amdano heb sôn am ei bregethu, oni wyr oddi wrth ofn a dychryn felly. Buasai ias o ddych- ymyg gostyngedig yh werthfawr, petai ond yn peri i ddyn- ion ofni ac addoli Duw sydd yn rhy fawr i beidio â bod yn ddirgelwch. Ac eto rhaid yw i'r Eglwys fod yn ben- *Anerchiad a draddodwyd yng Nghynhadledd Flynyddol Undeb Athrofa'r Bala, yn Llandudno, Gorff. 1930.