Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU DIWEDDAR AR ADDYSG. I. UN o'r materion pwysicaf y dylid ei wynebu gan bob un a fyn ddeall y pwnc sydd dan eih sylw yw hwn: Beth yw amcan a diben Addysg? Yn 1905 gwnaeth Athro o'r America, William C. Bagley, yn ei lyfr The Educative Process (Macmillan, 8s. 6c.), ymdrech egniol i drafod y cwestiwn yn ei wahanol agweddau, ac, yn fy marn i, ni chynigiodd neb ar ei ôl ateb cyflawnach a thecach na'r uh a roddwyd ganddo ef. Ei ddyfarniad ef oedd mai amcan Addysg yw cynhyrchu personau y bydd eu bywyd a'u gwaith yn effeithiol mewn cymdeithas. Ceisia bwys- leisio'r ffaith mai ar yr unigolyn y gweithreda Addysg, a chadw mewn cof ar yr un pryd mai unigolyn yn byw ymhlith pobl wedi eu cyflunio mewn gwahanol fathau o gymdeithasau ydyw. Yn 1920, ymddangosodd Educa- tion Its Data and First Principles (Arnold, 6s.), o waith yr Athro (yn awr Syr) T. Percy Nunn. Yma, efallai, y ceir yr ymdriniaeth alluocaf a ddiben Addysg, ar natur a hawliau unigoliaeth, ac ar berthynas yr unigolyn â chymdeithas. Fel y dywedais yn y Welsh Outlook (1921), ymddengys i mi fod prif ymresymiadau Nunn yn arwain at gasgliad tebyg i'r hwn a dyhnwyd gan Bayley; er hynny y ffurf a roddir ganddo i'w ddyfarniad ar y pwnc holl-bwysig hwn yw: "Amcan Addysg yw datblygu un- igoliaeth, h.y., natur yr unigolyn." Daw gwendid y casgl- iad i'r amlwg pan edrychom am yr ateb a gynigir ganNunn i'r gofyniad canlynol o'i eiddo ef ei hun: A oes hawl gan gymdeithas (neu, i fod yn fwy penodol, y Llywodr- aeth) i ofyn, mewn adegau o gyfyngder, am wasanaeth oddi ar law ei haelodau a esyd atalfa ar ddatblygiad eu hunigoliaeth, ac yn wir, a eilw am ei offrymu'n derfyn- ol?" Er ein syndod, ni chynigir un ateb uniongyrchol gan yr awdur i'r cwestiwn.