Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DIWINYDDIAETH EMIL BRUNNER. (Ail Ysgrif). I. ODD1 wrth lyfrau Brunner gellir ffurfio syniad gweddol glir am y modd y datblygodd ei syniadau am grefydd, a pha fodd y cludid ef ymhellach ganddynt fel yr âi rhagddo oddi wrth safbwynt Schleiermacher a fu'n hir y dylanwad mwyaf ar syniadau diwinyddol y cyfnodau a'i dilynodd. Yn 1914 pan gyhoeddodd Brunner ei lyfr Yr elfen symbolig mewn gwybodaeth grefyddol," digwyddai fod yn gryn edmygydd o'r diwinydd mawr. Y pryd hwnnw, teimlad a'r ymwybod crefyddol oedd yr elfen- nau sylfaenol a phwysicaf ym marn Brunner. Daw dyl- anwad Bergson ar feddwl Brunner yn amlwg i'r golwg yh y llyfr uchod yn y pwys a ddyry ar gyngreddf (intui- tion) yn hytrach nag ar ganfyddiadau'r deall i ddirnad rialiti. Ond yn 1921 cyhoeddodd Brunner lyfr arall o duedd wahanol a mwy adnabyddus, yn dwyn teitl sy'n nodwedd- iadol o'i safbwynt erbyn hyn: "Profiad, Gwybodaeth a Ffydd." Yn y llyfr hwn ymbellhaodd gryn lawer oddi wrth safbwynt Schleiermacher, ac ynddo ceir ymosodiad digêl ar sylfaenydd diwinyddiaeth Brotestannaidd ddi- weddar. Yn 1924 drachefn ymddangosodd llyfr mawr arall ganddo ar Schleiermacher sydd a'i deitl yn pwys- leisio cyferbyniad, sef Cyfriniaeth a'r Gair." Yn hwn fe ddengys fel y darostyngodd Schleiermadher gyda'i fedr a'i sêl grefydd i lefel cyfriniaeth teimlad esthetig a gorddrychol (subjectwe) hollol. Yn gyferbyniol i hyn, ceir ymgais Brunner i ddangos y safbwynt priodol y dylai Diwinyddiaeth Gristnogol ddatblygu ar hyd-ddi, sef ar linellau diwinyddiaeth yr Eglwys Ddiwygiedig ac athron- iaeth Kant. Dylai bob amser ymdrin â'r Gair, ac â Ffydd fel dau ffocus unrhyw athrawiaeth a gymer arni fod yn fynegiad o Ddatguddiad. Ceir rhai yn amau bod syniadau Brunner yn gyffelyb i eiddo Barth. Tyb eraill D